Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 18 Hydref 2016.
Nid wyf yn siŵr bod meddygon teulu a'r metro yn gysylltiedig, ond o ran y metro, mae hynny oherwydd, wrth gwrs, na fydd y fasnachfraint yn cael ei throsglwyddo tan hydref y flwyddyn nesaf. Felly, mae'n anodd rhoi dyddiad cychwyn ar gyfer cam 2. Mae cam 1 y metro wedi cychwyn eisoes, wrth gwrs. Cychwynnodd hwnnw y llynedd. Mae hyn yn ymwneud â cham 2 a'r ffordd y mae'r fasnachfraint, y cytundeb ar y fasnachfraint, a'r map a fydd yn bwysig o ran penderfynu pryd y bydd cam nesaf y metro yn cychwyn.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi nodi’r egwyddorion bras y byddwn yn eu dilyn mewn ymateb i adolygiad Diamond, a byddwn yn ceisio cael yr ateb tecaf i holl fyfyrwyr Cymru.