Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 18 Hydref 2016.
Wel, rŷm ni yn moyn, wrth gwrs, sicrhau bod system mewn lle sydd yn deg, sydd yn defnyddio’r cyllid sydd yna, wrth gwrs, ac sydd yn dilyn yr egwyddorion rŷm ni wedi eu dodi lawr yn barod, sef ein bod ni’n cadw’r egwyddor bod pawb yn rhan o’r system, yn sicrhau bod yna ffordd sydd yn deg a hefyd sydd yn gyson ynglŷn â delio â myfyrwyr, os ydyn nhw’n rhan amser neu’n llawn amser, yn sicrhau bod yna fuddsoddiad gan yr unigolyn ond hefyd gan Lywodraeth, a hefyd yn sicrhau bod pobl yn gallu cael mwy o fynediad i addysg uwch. Dyna’r egwyddorion y mae’r Ysgrifennydd wedi datgan lan hyd nawr, a dyna’r egwyddorion y byddwn yn eu dilyn.