<p>Darpariaeth Canolfannau Celfyddydol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:10, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Byddwn, yn sicr. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn am ddibenion addysgol canolfannau celfyddydau. Ni ddylem anghofio ychwaith bod canolfannau celfyddydau yn darparu cyflogaeth. Flynyddoedd lawer yn ôl, roeddwn i mewn darlith rymus iawn gan y Dr Mererid Hopwood ar ddiwylliant fel sbardun economaidd, yng Ngogledd Iwerddon o bob man. Roedd yn pwysleisio'n gryf iawn sut y gellir defnyddio’r celfyddydau fel ffordd o ddatblygu economïau lleol hefyd. Felly, ceir nifer o feysydd lle mae canolfannau celfyddydau yn bwysig sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn sy’n amlwg ar unwaith i aelodau'r cyhoedd.