Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 18 Hydref 2016.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae'r ystadegau a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos cynnydd pellach i gyfran y dysgwyr sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim sy’n cyflawni pum pwnc TGAU da, gan gynnwys mathemateg a Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf. Dyma’r perfformiad gorau eto gan ein dysgwyr difreintiedig ac, am yr ail flwyddyn, mae'r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant a phobl ifanc sy’n derbyn prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion wedi lleihau. Brif Weinidog, mae hyn yn dystiolaeth bellach o ba mor llwyddiannus yw Llywodraeth Cymru o ran trechu tlodi yng Nghymru. A allwch chi ddweud wrthyf felly sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i barhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn?