Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 18 Hydref 2016.
Brif Weinidog, gwnaeth yr Athro Brian Morgan a’r Athro Gerry Holtham waith ymchwil yn ddiweddar i’r hyn sy'n gweithio o ran datblygiad economaidd ledled y byd. Daethant o hyd i gydberthynas gref iawn rhwng lefelau uchel o wariant ar ysgolion a llwyddiant economaidd. Yn ogystal â'r manteision economaidd, wrth gwrs, mae addysg yn dda ynddo’i hun ac o fudd i bob agwedd ar fywyd. A wnaiff Llywodraeth Cymru weithio i gynyddu cyllid i’n hysgolion yng Nghymru?