Part of the debate – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 18 Hydref 2016.
Gall cystadleuaeth fod o gymorth; y broblem gyda'r fasnachfraint bresennol yw, pan ddyfarnwyd y contract, roedd yn seiliedig—fel y mae Aelodau eisoes wedi ei nodi y prynhawn yma—ar ddim twf. Arweiniodd hynny, yn ei dro, at i’r holl gynnydd i deithiau teithwyr a thocynnau teithwyr, yr holl refeniw a gasglwyd ohonynt, gael ei gynhyrchu fel elw i’r gweithredwr. Os edrychwn ni ar y fasnachfraint bresennol a nifer y teithwyr sydd wedi mynd ar deithiau ar y rhwydwaith rheilffyrdd, aeth 18 miliwn o deithwyr ar deithiau ar y rhwydwaith yn 2003; erbyn 2013, roedd y nifer wedi cynyddu i 29 miliwn. Nid oes unrhyw bosibilrwydd y gallwn ni fforddio bod yn yr un sefyllfa eto, lle nad ydym yn cynnwys mesurau wrth gefn yn y contract ar gyfer cynnydd mewn capasiti. Dyna pam yr wyf yn credu ei bod yn deg i ddweud, yn ystod y broses o ymgynghori a gynhaliwyd yn gynharach eleni, bod cyfran anferth o'r pryderon a godwyd gyda ni yn ymwneud â chapasiti ac ansawdd y cerbydau. O ran cwestiynau a godwyd yn y Siambr hon o'r blaen—gan Leanne Wood, unwaith eto, a dweud y gwir—o ran ansawdd cerbydau, mae gan bob un o'r pedwar cynigydd rym prynu sylweddol o ran cerbydau newydd, ac felly byddem yn disgwyl i’r prif bryder y mae teithwyr wedi ei fynegi drwy'r ymgynghoriad, ynghylch ansawdd cerbydau, gael sylw llawn yn y fasnachfraint nesaf.