4. 3. Datganiad: Cyllideb Ddrafft 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP 3:13, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad a’r rhybudd amdano ymlaen llaw, ond mae’n rhaid fy mod wedi colli ei alwad ffôn. [Chwerthin.] Ond rwyf wedi cael copi o'r gyllideb yn ystod datganiad y Prif Weinidog—[Torri ar draws.] O wel, ta waeth, ta waeth. Rwyf wedi bod yn gwneud fy ngorau i o leiaf sganio’r gyllideb ers fy nghwestiwn yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, gan wrando, wrth gwrs, ar yr un pryd, ac yn sicr mae agweddau ar y gyllideb hon y byddem yn eu croesawu, yn enwedig y cynnydd mewn gwariant ar iechyd. Rwy'n credu ei fod tua 4 y cant ar gyfer iechyd, lles a chwaraeon yn gyffredinol, a 5.4 y cant ar gyfer yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei alw’n ‘wasanaethau craidd y GIG’. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi ychydig mwy o eglurder am y £240 miliwn ychwanegol hwn ac yna’r £44 miliwn ychwanegol y cyfeiriodd ato, rwy’n credu, o ganlyniad i alwad Plaid Cymru, ac yn arbennig y £20 miliwn sydd wedi’i glustnodi i iechyd meddwl—sydd i’w groesawu, er mai dim ond un rhan o ddeuddeg o'r cynnydd ydyw—a'r £15 miliwn mewn cyfalaf ar gyfer diagnosteg? A yw’r ddau neu'r naill neu'r llall o'r rhain wedi’u cynnwys yn y £44 miliwn?

Hoffwn groesawu yn arbennig y £7 miliwn ychwanegol ar gyfer hyfforddiant meddygol. Mae’r ychwanegiad gofal diwedd oes o £1 filiwn i'w groesawu yn amlwg, ond, rwy’n ofni mai dim ond piso dryw bach yn y môr ydyw yn y maes hwnnw