Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 18 Hydref 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i roi croeso cynnes iawn i’r datganiad cyllideb hwn heddiw, a gyflwynir yn erbyn cefndir o amgylchiadau economaidd heriol iawn, iawn?
Rwy'n falch iawn o weld cymaint o ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu yn cael eu hariannu yn y datganiad. Rwy’n croesawu yn arbennig yr arian ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Fel y gwyddoch, Weinidog, nid ydym wedi dilyn y trywydd y maen nhw wedi ei ddilyn yn Lloegr, lle’r ydym wedi gweld gostyngiadau llym dros ben mewn cyllid, yn enwedig ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion. Rydym wedi bod o’r farn erioed bod y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol yn mynd law yn llaw yng Nghymru. A ydych chi’n gallu amlinellu pa gyllid ychwanegol sydd ar gael yn y gyllideb hon ar gyfer gofal cymdeithasol?
Rwy'n falch iawn â’r cyhoeddiad am ddiogelu cyllid llywodraeth leol hefyd. Mae fy awdurdod fy hun yn gweithio'n hynod o galed i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o dan amgylchiadau heriol iawn. Yn wahanol i Paul Davies, fodd bynnag, hoffwn gael sicrwydd ychydig yn wahanol ar ddyraniad y cyllid. Yn fy mhrofiad i, awdurdodau difreintiedig sydd yn aml yn dioddef o dan y fformiwla llywodraeth leol. Felly, hoffwn ofyn pa gamau yr ydych chi’n mynd i’w cymryd, ac yn amlwg rydym yn disgwyl cael mwy o fanylion yfory i sicrhau mai ein cymunedau mwyaf anghenus sy'n cael y diogelwch mwyaf.