Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 18 Hydref 2016.
Diolch, Lywydd. Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â rhaglen dileu TB Llywodraeth Cymru sydd wedi’i diweddaru.
Mae ein fframwaith 2012 ar gyfer dileu TB buchol yng Nghymru yn dod i ben eleni. Mae'n amser i asesu, adlewyrchu ar ein llwyddiannau, dysgu gwersi ac ystyried dull newydd. Ers 2012, rydym wedi gweld nifer yr achosion newydd o TB buchol mewn buchesi yng Nghymru yn lleihau. Mae nifer yr achosion newydd o TB wedi gostwng 19 y cant o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Yn ychwanegol at hyn, mae nifer y buchesi dan gyfyngiadau TB wedi gostwng 10 y cant. Y prif reswm dros y cynnydd yn nifer y gwartheg sy’n cael eu lladd yng Nghymru oherwydd TB yw oherwydd cynnydd yn nefnydd y prawf gwaed gama interfferon wedi'i dargedu, er mwyn helpu i gael gwared ar haint mewn achosion rheolaidd a pharhaus.
I roi enghraifft, rydym yn gweld sefyllfa sy'n gwella, o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd, lle mae 68 yn llai o fuchesi dan gyfyngiadau TB oherwydd TB yng Nghymru. Hefyd, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod nifer yr achosion newydd o TB ar hyn o bryd ar ei lefel isaf mewn 10 mlynedd. Rwy'n awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hwn a gwella cynnydd gan ddefnyddio set o fesurau gwell yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein nod hirdymor o ddileu TB. Mae ein hymagwedd tuag at ddileu clefyd wedi canolbwyntio ar bob ffynhonnell o haint TB, gan gynnwys trosglwyddo o fuwch i fuwch a TB yn cael ei ledaenu gan fywyd gwyllt a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Mae'r rhaglen hon, sydd wedi’i diweddaru, yn cynnwys cyfres gynhwysfawr a chydlynol o fesurau, gan gynnwys dull newydd, rhanbarthol o ddileu TB sy’n cynnwys rhannu ardaloedd yn dri chategori ar sail nifer yr achosion o TB, cryfhau rheolaethau gwartheg, mesurau bywyd gwyllt a newidiadau i’r broses iawndal. Byddwn hefyd yn edrych o’r newydd ar y dull o reoli ein rhaglen.
Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar ein dull newydd. Hoffwn i bawb y mae TB buchol yn effeithio arnynt neu unrhyw un sydd â diddordeb yn ein rhaglen, i ystyried ein cynigion a rhoi sylwadau, a fydd yn helpu i lunio ein cynlluniau. Erbyn hyn, rydym wedi cwblhau bron i saith mlynedd o brofion blynyddol ar fuchesi, sy'n parhau i nodi haint yn gynnar ac yn darparu set ddata amhrisiadwy sy’n dangos y darlun amrywiol o ran y clefyd ar draws Cymru. Rwy’n bwriadu cynnal profion blynyddol ar fuchesi am gyhyd ag y bo angen.
Rydym ni’n gwybod o'r dangosfwrdd TB nad yw achosion o'r clefyd yn unffurf ar draws Cymru a cheir gwahanol ffactorau sy’n effeithio ar ledaeniad y clefyd ym mhob ardal. Fel yr esboniais yn y ddadl y mis diwethaf, rydym yn awr mewn sefyllfa i ddilyn dull mwy rhanbarthol tuag at fesurau i ddileu TB. Byddwn ni’n defnyddio tri chategori o ardaloedd ledled Cymru: isel, canolradd ac uchel. Ar gyfer pob ardal, byddwn ni’n addasu ein dull i adlewyrchu amodau a risgiau’r clefyd. Rydym ni’n awyddus i ddiogelu’r ardal sydd â nifer isel o achosion o TB a lleihau nifer yr achosion yn yr ardaloedd sydd â nifer canolradd ac uchel o achosion o TB. Er mwyn cyflawni'r nodau hyn, mae'n rhaid i’r mesurau sydd am gael eu gweithredu ym mhob ardal fod wedi’u targedu ac mae’n rhaid iddynt fod yn gymesur, a hoffwn glywed barn rhanddeiliaid ar ein cynigion, a fydd yn cyfrannu at ein nod hirdymor o ddileu TB.
Rydym wedi bod yn targedu buchesi sydd wedi bod o dan gyfyngiadau TB ers dros 18 mis, gan ddefnyddio mesurau gwell. Rydym bellach yn ymestyn hyn i gynnwys meysydd sy’n achosi problemau a buchesi sy'n cael eu heintio â TB dro ar ôl tro. Bydd gan bob un o'r buchesi sy’n cael eu heintio â TB dro ar ôl tro gynlluniau gweithredu unigol, pwrpasol, wedi’u datblygu mewn partneriaeth â'r ffermwr, y milfeddyg a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, sydd â’r nod o gael gwared ar haint. Bydd y cynlluniau gweithredu hyn yn cynnwys mesurau megis bod yn fwy sensitif, cynnal profion yn amlach a chael gwared ar adweithyddion amhendant. Mae'r 10 achos hiraf o heintiau TB parhaus ar eu pennau eu hunain wedi costio dros £10 miliwn mewn arian iawndal er 2009 i’r Llywodraeth. Mae rhai o'r buchesi hyn wedi bod o dan gyfyngiadau TB ers mwy na 10 mlynedd. Rhagwelir y bydd ehangu’r agwedd hon ar y rhaglen yn targedu’r clefyd yn yr achosion cronig hyn a lleihau bodolaeth yr haint yn gyffredinol.
Rwyf hefyd yn gofyn am sylwadau ynglŷn â rhoi cosbau iawndal ar gyfer anifeiliaid sy’n cael eu symud o fewn daliad amlsafle sydd wedi’i gyfyngu o ran buchesi sy’n cael eu heintio â TB dro ar ôl tro os cânt eu lladd ar ôl hynny o ganlyniad i TB. Rydym eisoes yn lleihau iawndal mewn achosion lle mae gwartheg yn cael eu hychwanegu at fuches gyfyngedig dan drwydded er mwyn rhannu'r risg ariannol yn well, wrth helpu ffermwyr i aros mewn busnes. Bydd y dull hwn yn atgyfnerthu ein rhaglen ymhellach drwy reoli'r risg o ran y clefyd a achosir gan symudiadau penodol o wartheg o fewn daliad. Mae'r mwyafrif o ffermwyr yn cydymffurfio â'r rheolau TB, fodd bynnag, dylai’r rhai hynny nad ydynt yn cydymffurfio gael eu cosbi oherwydd eu bod yn peryglu ein nodau ar gyfer dileu TB. Rwyf, felly, yn ystyried cyflwyno cosbau i daliadau cymhorthdal polisi amaethyddol cyffredin ar gyfer y rhai sy’n torri rheolau penodol o’r Gorchymyn TB. Mae cysylltu ymddygiad a chydymffurfio â'r rheolau i gosbau ariannol eisoes yn rhan o’n rhaglen. Mae’n rhaid i ffermwyr dderbyn y bydd canlyniadau ariannol os nad ydynt yn dilyn y gofynion.
Dylai ffermwyr hefyd ystyried risg wrth brynu gwartheg. Mae cynlluniau prynu doeth wedi gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ddileu TB yn Awstralia a Seland Newydd. Mae'r gwledydd hyn ar y blaen wrth ddileu TB ac mae'n rhaid i ni barhau i ddysgu gwersi oddi wrthynt ac ail-greu’r rheolaethau mwyaf defnyddiol. Er mwyn helpu ffermwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn ag iechyd y gwartheg y maent yn dymuno eu prynu, rwy’n ystyried y cynnig i wneud cynllun prynu doeth yn orfodol yng Nghymru.
Ceir tystiolaeth yn achos rhai achosion o TB cronig mewn buchesi bod bywyd gwyllt yn rhan o’r broses o drosglwyddo’r clefyd. Rwyf wedi gofyn i swyddogion gysylltu â milfeddygon ac arbenigwyr bywyd gwyllt i ddatblygu ffyrdd o dorri’r cylch trosglwyddo mewn achosion o TB cronig mewn buchesi, lle y gellir dangos bod moch daear yn cyfrannu at y broblem. Byddaf yn glir yn hyn o beth: byddwn ni’n dal i wrthod dull o ddifa moch daear fel a ddilynir yn Lloegr, lle mae ffermwyr yn cael rhwydd hynt i saethu moch daear iach a moch daear sydd wedi’u heintio eu hunain. Fodd bynnag, mae amrywiaeth o ddewisiadau eraill ar gael, gan gynnwys dysgu o'r cynllun peilot yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn yn ymwneud â dal moch daear mewn cawell a lladd anifeiliaid sydd wedi'u heintio mewn modd nad yw’n achosi poen. Mewn ardaloedd lle ceir nifer uchel o achosion o heintiau cronig mewn buchesi a lle mae gennym gadarnhad gwrthrychol fod moch daear wedi’u heintio, rydym yn ystyried pa un a fyddai dull tebyg yn dderbyniol ac yn briodol, unwaith eto drwy weithio gyda milfeddygon ac arbenigwyr bywyd gwyllt.
Mae gan frechu swyddogaeth bwysig o hyd yn ein dull o ddileu TB ac mae faint o frechlynnau sydd ar gael ar gyfer moch daear yn rhywbeth yr wyf yn cadw llygad barcud arno. Ni fydd brechlynnau i’w defnyddio’n benodol ar gyfer moch daear ar gael yn 2017. Mae brechlynnau eraill sydd ar gael yn dal i fod yn ddewis yr ydym yn ei archwilio. Fodd bynnag, mae'n rhy gynnar i feddwl am ddefnyddio’r brechlyn yn y dyfodol, mae’n rhaid i ni wybod pa bryd yn union y caiff y cyflenwad ei adfer cyn meddwl am hynny.
Dylai pob fferm, yn ddieithriad, pa un a yw wedi dioddef o haint TB ai peidio, ddilyn arferion da o ran bioddiogelwch a hwsmonaeth bob amser. Mae bioddiogelwch yn allweddol wrth ddiogelu anifeiliaid rhag TB buchol a chlefydau anifeiliaid difrifol eraill, a dylai ffermwyr fod yn gallu asesu eu risg. Drwy weithio gyda ffermwyr a'u milfeddygon ac adeiladu ar ein gwaith cynharach yn y maes hwn, rwy’n bwriadu datblygu un offeryn safonol ar gyfer sgorio bioddiogelwch, y gellir ei ddefnyddio gan bob ffermwr i asesu lefelau bioddiogelwch ar eu ffermydd.
Rwy’n gofyn am farn pobl ar ostwng y cap ar gyfer iawndal TB i £5,000. Ni fydd y cap hwn yn effeithio ar y mwyafrif o ffermwyr. Yn seiliedig ar ffigurau'r llynedd, byddai cap o £5,000 yn effeithio ar 1 y cant o’r gwartheg sydd wedi’u prisio, ond byddai'n cynnig arbedion o oddeutu £300,000 y flwyddyn. Pwrpas y cap yw amddiffyn Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â chost yr anifeiliaid mwyaf gwerthfawr. Ers 2011, mae prisiadau ar gyfer gwartheg pedigri wedi bod tua dwywaith cymaint â’r gwerth cyfartalog ar y farchnad. Mae hyn yn awgrymu, er gwaethaf y mesurau sydd gennym ar waith, fod gormod o iawndal yn cael ei dalu mewn rhai achosion.
Yn olaf, rwy’n bwriadu edrych o’r newydd ar y modd y mae’r rhaglen ar gyfer dileu TB yn cael ei llywodraethu. Mae strwythur y rhaglen bresennol wedi bod ar waith ers 2008, ac o ystyried y dull rhanbarthol newydd o ddileu TB a lansiad dull adlewyrchu, dyma'r amser priodol i adolygu trefniadau llywodraethu ein rhaglen. Yn dilyn yr ymgynghoriad, byddaf yn ystyried yr holl ymatebion a bydd swyddogion yn llunio rhaglen ddiwygiedig o weithgareddau. Rwy’n bwriadu cyhoeddi'r rhaglen newydd ar gyfer dileu TB yn y gwanwyn, gan roi sylw i’r mesurau newydd sy'n cael eu cyflwyno o fis Ebrill y flwyddyn nesaf. Bydd y rhaglen newydd hon ar gyfer dileu TB yn ein rhoi mewn sefyllfa gryfach i sicrhau ein bod yn parhau i symud tuag at y nod o Gymru ddi-TB.