Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 18 Hydref 2016.
Diolch, Lywydd, a diolch, Weinidog, am y datganiad. A gaf i ddatgan diddordeb, gan fod fy ngwraig yn bartner mewn busnes fferm?
Rwy’n rhoi croeso gofalus i’r datganiad, fel y mae wedi cael ei wneud heddiw. Rwy’n meddwl ei fod e yn ein symud ni i’r cyfeiriad iawn, ond, wrth gwrs, amser a ddengys, oherwydd dogfen ymgynghorol sydd gennym ni, neu sy’n cael ei chyhoeddi gan y Llywodraeth heddiw, nid y strategaeth derfynol.
Nawr, rwy’n croesawu’n fawr y ffaith bod y Llywodraeth yn symud i fodel mwy rhanbarthol. Rwyf i, yn sicr, yn un o nifer o bobl sydd wedi galw ers talwm am symud i sefyllfa lle mae’r ymateb yn gymesur i lefel y risg, ac rwy’n meddwl bod hynny, yn sicr, yn rhywbeth positif. Mi fydd, wrth gwrs, nifer o ffermwyr â daliadau efallai mewn mwy nag un ardal, ac rwy’n siŵr eich bod chi wedi rhoi ychydig o feddwl i hynny, ond efallai y gallwch chi jest esbonio’n fras pa wahaniaeth ymarferol y byddan nhw’n ei weld.
Hefyd, wrth gwrs, rŷm ni’n gobeithio, wrth i statws y clefyd newid mewn rhai rhanbarthau, y bydd angen israddio, a gobeithio nad uwchraddio, statws yr ardaloedd hynny. A oes gennych chi broses mewn golwg ar gyfer hynny, neu efallai proses i newid y ffiniau, pan fo yna bocedi efallai yn gwella neu’n gwaethygu?
Mae brechu yn dal yn nodwedd—