6. 5. Datganiad: Y Rhaglen i Ddileu TB Buchol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 5:03, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Nid wyf wedi dweud o gwbl y bydd yna ddifa moch daear yn digwydd. Mewn difrif calon, nid wyf wedi dweud hynny. Yr hyn yr wyf wedi'i ddweud yw fy mod yn bwriadu cyflwyno cynlluniau gweithredu pwrpasol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni’n ystyried cynlluniau peilot o wledydd eraill, ond rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn, pan fydd gennym ni’r cynlluniau gweithredu pwrpasol hynny, yr wyf yn credu bod eu hangen yn fawr, yn enwedig o ystyried yr achosion o TB cronig, oherwydd mae’n annerbyniol fod gennym ni’r achosion hyn, fel y dywedais, y 10 achos hyn sydd wedi bod o dan gyfyngiadau am 106 o flynyddoedd—. Yn syml, nid yw’n gynaliadwy, ac mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o ymdrin â hynny.

Croesawaf y ffaith eich bod yn falch ein bod ni'n symud i ddull rhanbarthol. Rwyf innau, hefyd, yn credu mai heb os mai hwn yw’r peth iawn i'w wneud, a chredaf fy mod i wedi ateb eich cwestiynau yn fy ateb blaenorol i Paul Davies ynglŷn â’r dull rhanbarthol.

Mewn ymateb i'ch cwestiwn ynglŷn â brechu, fel y dywedais, nid ydym yn gwybod pa bryd y bydd y cyflenwad o’r brechlyn o Ddenmarc yn cyrraedd. Cafwyd trafodaethau â DEFRA, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda DEFRA i geisio dod o hyd i gyflenwyr eraill. Ymddengys nad oes llawer o awydd gan DEFRA i chwilio amdano ar hyn o bryd, felly rwyf wedi siarad â'r prif swyddog milfeddygol, sydd, yn amlwg, yn cyfarfod â'i chymheiriaid ac â DEFRA, i ddweud y byddwn ni yn parhau i chwilio am hynny, gan fy mod i’n credu, er mai un rhan o'n rhaglen yn unig ydyw, ei bod hi’n rhan bwysig iawn o'n rhaglen.