Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 18 Hydref 2016.
Weinidog, credaf mai’r hyn sy’n allweddol yma yw sut yr ydym yn mynd i'r afael â TB ymysg bywyd gwyllt, ac mae'n rhaid i mi ddweud, wrth wrando arnoch chi, rwy'n falch eich bod yn dymuno dileu TB. Dyna yw eich nod, ac mae hynny'n gwbl briodol, o ystyried y canlyniadau, ar ôl Brexit, pan allai gwledydd amrywiol ddefnyddio hyn yn esgus i beidio â derbyn ein cig eidion.
Ond rydych wedi dweud yn awr nad ydych yn rhagweld y bydd brechlyn ar gael yn y dyfodol agos, ac nid oes gennych bolisi ar gyfer yr hyn yr ydych chi'n mynd i’w wneud ynglŷn â moch daear, sef y prif fector o ran y boblogaeth bywyd gwyllt. Felly, rwyf yn eich annog i lunio polisi sy'n ymdrin â’r hyn yr ydym i’w wneud â bywyd gwyllt cyn gynted ag y bo modd. Cytunaf y dylem ddibynnu ar y wyddoniaeth, ac efallai y gallech chi ddechrau gyda Chymdeithas Milfeddygon Prydain, a’u hadroddiad diweddaraf ar ladd moch daear sydd wedi’u heintio mewn modd trugarog. Fe ddylid rheoli hyn. Mae'n beth ofnadwy i siarad amdano, ond yn anffodus, mae’n debygol bod angen i ni ei wneud.