6. 5. Datganiad: Y Rhaglen i Ddileu TB Buchol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP 5:07, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad a'r sylwedd ynddo. Rydych chi eisoes wedi clywed, rwy'n credu, gan dri aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a chredaf fod yr Aelodau wedi penderfynu yr hoffem gynnal o leiaf ymholiad byr ar hyn-ar y diwrnod llawn, dydd Iau 10 Tachwedd, yn ôl pob tebyga hoffwn i ofyn a fyddech ar gael i fod yn bresennol yn y sesiwn honno, neu os nad yw’r dyddiad hwnnw yn gyfleus, a fyddech yn dod i'n gweld ni er mwyn i ni gael cyfle efallai i gynnal sesiwn holi estynedig ar ddiwrnod y naill ochr i hynny. Yn amlwg, rydym yn gwerthfawrogi na fyddwch am ragfarnu’r ymgynghoriad, ond ymddengys bod mwy o sylwedd i ni ei drafod yn dilyn eich datganiad heddiw.

Cefnogaf yn frwd iawn eich dull wedi’i seilio ar dystiolaeth a’r hyn a ddywedasoch ynglŷn â hynny. Tybed a ydych o’r farn bod y dystiolaeth yn newid. Gwnaethoch sôn am astudiaeth Gogledd Iwerddon a'r dull a ddefnyddir yno. A oes unrhyw reswm dros feddwl bod dadleuon o blaid difa moch daear o ryw fath—ac rwyf yn gwerthfawrogi nad yw enghraifft Lloegr cystal—fod y ddadl am hynny wedi cryfhau? Gwnes innau bleidleisio yn erbyn y difa yn Swydd Gaerloyw a Gwlad yr Haf mewn lle arall, ond yr oedd hynny ar y ddealltwriaeth y byddai brechlyn ar gael yn gynt. A ydych yn credu y bu newid yn y dystiolaeth wyddonol y mae angen i ni ymateb iddi?

A gaf i ofyn hefyd: rydych yn dweud eich bod yn diystyru difa trwy ddull Lloegr, lle mae ffermwyr eu hunain saethu moch daear sydd wedi’u heintio a rhai heb eu heintio; a ydych yn erbyn y ffaith bod y ffermwyr eu hunain yn ei wneud, y saethu neu natur ddiwahaniaeth saethu moch daear sydd wedi eu heintio a’r rhai heb eu heintio? A ydych yn erbyn y tri pheth, neu a oes un arbennig sy’n peri’r pryder mwyaf i chi? Diolch.