Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 18 Hydref 2016.
A gaf i groesawu’r cydbwysedd yn y datganiad a’r dystiolaeth yn yr ymgynghoriad yr wyf wedi ei ddarllen hefyd? Mae wedi ei seilio ar dystiolaeth dda ac yn ffordd gadarn ymlaen. A gaf i ganmol Ysgrifennydd y Cabinet am beidio ag osgoi'r cwestiynau anodd? Mae rhai meysydd anodd yn hyn: materion yn ymwneud ag iawndal a chosbau; materion yn ymwneud â mwy o brofion a phrofi mwy cywir, a fydd yn arwain at fwy o achosion o ddod o hyd i anifeiliaid sydd wedi'u heintio a chael gwared arnyn nhw; a chael gwared ar adweithyddion yn gyflym.
Rwyf yn croesawu yn arbennig y symud tuag at ymgynghori ar ardaloedd rhanbarthol, ond a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddai'n fwriad, felly, fel y gwnaed yn Awstralia, peidio â chadw’r ardaloedd hynny yn sefydlog am byth bythoedd, ond mewn gwirionedd, wrth i ffermydd unigol neu'r rhai ar gyrion yr ardaloedd hynny symud o’r categori uchel i’r categori canolradd, y gallech chi, mewn gwirionedd, grebachu’r ardaloedd hynny, gan roi cymhelliad i’r ffermwyr hynny mewn ardaloedd lle mae lefel yr haint yn uchel neu’n ganolradd i weithio eu ffordd allan o’r ardaloedd, mewn gwirionedd, gyda chymhelliad? Ond, rwyf yn croesawu'r dull hwn.
Efallai y caf ofyn hefyd, yn ogystal â’r cwestiwn hwnnw ynglŷn â chrebachu’r ardaloedd a thynnu ffermydd allan o'r rhanbarthau hynny, pe bai’r dull hwn yn cael ei ddwyn ymlaen, a fyddai'n sicrhau bod y prif swyddog milfeddygol ar gael i'r Aelodau'r Cynulliad hynny, nid yn unig aelodau'r pwyllgor amgylchedd, ond eraill sydd â diddordeb yn hyn, i drafod y dull hwn yn fanylach? Wrth edrych ar Ogledd Iwerddon, ac ardaloedd eraill efallai, lle mae gwahanol ddulliau o fynd i'r afael â’r cronfeydd, fel y'u gelwir, o haint mewn bywyd gwyllt, a fydd hi hefyd yn sicrhau ei bod yn trafod y dull hwn â gwyddonwyr a ecolegwyr blaenllaw, yn ogystal ag epidemiolegwyr, i sicrhau nad ydym, drwy amryfusedd, yn cyflawni canlyniadau negyddol, gwrthnysig yn y pen draw yn sgil dull a allai, mewn gwirionedd, ledaenu'r haint ymysg bywyd gwyllt? Gall y bwriadau gorau, weithiau, ein harwain at weithredoedd drwg iawn ar lawr gwlad. Felly, gadewch i ni weithredu ar sail y dystiolaeth, fel y mae pawb yma wedi dweud heddiw.