Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 18 Hydref 2016.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ac isadeiledd am ei adroddiad cynhwysfawr—cynhwysfawr yn yr atebion a chynhwysfawr yn y cwestiynau sydd wedi cael eu gofyn eisoes, felly af i ddim i ailadrodd beth sydd wedi ei grybwyll eisoes, dim ond i bwysleisio, yn y bôn, fod gwasanaeth bws yn hollol allweddol, yn enwedig i’r gyfran o’n poblogaeth ni sydd yn gynyddol yn mynd yn hen rŵan ond yn dal yn ffit ac yn iach ond ddim yn teimlo’n ddigon hyderus i yrru car. Dyma’r ffordd maen nhw’n mynd o gwmpas y lle. Mae'n dibynnu ar lwybrau bysus sydd yna yn digwydd yn brydlon—gallwch chi ddibynnu arnyn nhw i droi i fyny ar amser a phethau tebyg i hynny.
I ddechrau, awn ni ar ôl yr ochr leol. Wrth gwrs, cafodd y gwasanaeth bysus ei ddadreoleiddio flynyddoedd lawer yn ôl nawr, efallai cyn, hyd yn oed, i’r Ysgrifennydd Cabinet gael ei eni. Ond roedd y busnes o gael gwasanaethau preifat i fod i wella safonau’r gwasanaeth a gwella darpariaeth gwasanaeth bysus. Efallai bod hynny’n wir mewn rhai enghreifftiau, ond nid oedd yn wir ym mhob man, fel rydym ni wedi clywed eisoes. O’m dyddiau fel cynghorydd sir yn Abertawe, roeddwn i’n ymwybodol, fel awdurdod lleol, roedd y cwmnïau bysus preifat yn cael lot o arian, ond eto pan oedd pobl eisiau gwasanaeth i barhau mewn rhyw ardal, elfennau’r busnes oedd yn cael y flaenoriaeth, nid yr elfennau a’r ffaith bod y cwmnïau bysus yna’n cael peth wmbredd o arian cyhoeddus i ddarparau’r gwasanaeth, ac eto roedden nhw’n gallu stopio’r gwasanaeth yna pan oedd e’n eu siwtio nhw. Rwy’n credu bod yna’n dal elfen o hynny. Roeddech chi’n sôn lot am rôl awdurdodau lleol yn y fan hyn. Mae ganddyn nhw arian, mae rhai awdurdodau lleol yn darparu arian. Mae yna ambell i un sydd ddim yn darparu dim arian o gwbl i wasanaethau bysus—rydych wedi eu crybwyll eisoes.
Roedd gennyf fi ddiddordeb yn y datblygiadau yma pan fyddwch chi’n mynd i gyfarfod â Chaerdydd a Chasnewydd ynglŷn â rhwydweithiau bysus cynaliadwy, hynny yw, i fynd i’r afael â’r busnes yma bod yna rai gwasanaethau, hyd yn oed yng nghanol ein dinasoedd mwyaf grymus ni, sydd ddim yn talu pres ac mewn perygl o gael eu hatal. Felly, rwyf eisiau gwybod mwy ynglŷn â’r rhwydweithiau bysus cynaliadwy yma ac efallai eu datblygu nhw i lefydd megis Abertawe.
Yr ail bwynt, ac rwy’n ymwybodol o’r amser, Lywydd, rydym ni wedi siarad lot yn nhermau’r angen i wella cysylltiadau de-gogledd yn ein gwlad, fel rheol yng nghyd-destun ffyrdd a hefyd rheilffyrdd. Mae’r un peth yn wir ynglŷn â chysylltiadau bysus achos fel rwyf i wedi crybwyll eisoes mae yna nifer fawr o bobl sydd yn licio rhedeg eu bywyd yn gyfan gwbl ddibynnol ar y bws. Mae hynny’n bosib, yn enwedig gyda’r tocyn bws am ddim, sydd yn gynyddol ar gael i’r rhan fwyaf o bobl sydd, ie, yn mynd yn hen, ond yn dal yn ffit ac eisiau mynd o gwmpas y lle ac o gwmpas Cymru.
I’r perwyl yna, mae yna ddiddordeb wedi cael ei grybwyll yn y gwasanaeth bws rhwng Aberystwyth a Chaerdydd a gollwyd yn ddiweddar achos daeth cwmni Lloyds Coaches i ben—dim cysylltiad teuluol yn y fan yna, er yr enw poblogaidd. Wrth gwrs, rwy’n ymwybodol bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cadarnhau efo Elin Jones AC, yr Aelod lleol, ynglŷn ag a fyddai yna wasanaeth newydd yn dod i rym erbyn diwedd mis Hydref. Yn naturiol, rydym ni’n sôn am gysylltiadau de-gogledd, gogledd-de yn y fan hyn sy’n allweddol bwysig i uno ein cenedl. Nawr, yn nhermau’r gwasanaeth penodol yna o Aberystwyth i Gaerdydd, a oes yna ddiweddariad ar bryd ydym ni’n disgwyl gweld bysus rhagorol unwaith eto’n rhedeg ac yn gallu cysylltu ein gwlad—gwasanaeth sydd mor allweddol bwysig i ni fel cenedl? Diolch yn fawr.