7. 6. Datganiad: Dyfodol Gwasanaethau Bysiau yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 5:39, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am ei gwestiwn a hefyd am wneud ymholiadau ynglŷn â'r gwasanaeth pwysig rhwng Aberystwyth a Chaerdydd, ynghyd ag Aelodau eraill, gan gynnwys y Llywydd? Mae hwn yn wasanaeth hanfodol ac mae ei golli yn drueni mawr. Rwy'n falch o allu dweud bod trefniadau eraill ar gyfer y gwasanaeth bws penodol hwn bellach yn mynd rhagddynt yn dda, ac rydym yn rhagweld y byddwn mewn sefyllfa i wneud cyhoeddiad ar fanylion y gwasanaeth hwn o fewn y dyddiau nesaf.

Mae'n gwbl hanfodol bod pobl mewn rhannau gwledig o Gymru yn gallu mwynhau gwasanaethau bysus, yn rhannol oherwydd eu bod yn fannau cymdeithasol. Yn wahanol i ddulliau eraill o deithio, i bobl sydd yn aml yn cael eu hynysu maent yn cynnig ffordd o ryngweithio gyda phobl yn gymdeithasol.  Pan fydd y gwasanaethau'n cael eu colli, mae’r cyfle hwnnw’n cael ei golli hefyd. Rwy’n gwybod, o fy mhrofiad fy hun o gynrychioli etholaeth lle mae gweithredwr bysus wedi mynd i’r wal yn ddiweddar—GHA Coaches—pan ddigwyddodd hynny, yr henoed, sy'n dibynnu ar y gwasanaeth hwnnw, yr effeithiwyd arnynt fwyaf, a phobl ifanc, yn aml y bobl ifanc sy’n gymdeithasol ynysig ac sy'n dibynnu’n fawr ar wasanaethau bws er mwyn cyrraedd man cyflogaeth neu ddysgu. Felly, mae gwasanaethau gwledig, fel y nododd yr Aelod, yn gwbl hanfodol.

Byddwn yn cytuno, mewn sawl ffordd, bod dadreoleiddio yng nghanol yr 1980au wedi methu. Ond rwyf i hefyd, fel yr Aelod, yn dymuno gwybod rhagor am sut yr ymddengys bod rhai gwasanaethau yng Nghymru yn llawer mwy cynaliadwy nag eraill. Mae enghreifftiau—ac rwyf wedi eu nodi yn fy natganiad—yn y de-ddwyrain, lle mae gwasanaethau arbennig o gynaliadwy y gallwn edrych arnynt a dysgu oddi wrthynt. Byddaf yn cwrdd â chynrychiolwyr y cyngor a chynrychiolwyr gweithredwyr bysus i ganfod yn union beth y maent yn ei wneud yn wahanol sy'n eu galluogi i weithredu mewn ffordd fwy cynaliadwy. Byddaf yn hapus i rannu unrhyw brofiad a gaf o hynny, ac unrhyw oleuni a gaf ar y mater gydag Aelodau eraill. Wrth gwrs, byddaf hefyd yn rhannu'r wybodaeth honno gyda gweithredwyr bysus ac awdurdodau lleol ledled Cymru.

Mae'n ymddangos i mi fod gwahaniaeth sylweddol rhwng rhai awdurdodau lleol o ran y ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau bysus nad ydynt yn fasnachol hyfyw, a soniodd yr Aelod ei fod yn ymwybodol o rai awdurdodau lleol sydd yn syml wedi rhoi'r gorau i ariannu’r teithiau hynny nad ydynt yn fasnachol hyfyw. Rwyf innau hefyd yn ymwybodol o rai awdurdodau lleol sydd wedi gwneud hynny. Mae eraill wedi bod yn fwy cyfrifol ac wedi sicrhau bod cefnogaeth ar gael. Unwaith eto, yn achos GHA Coaches, yr hyn a amlygwyd gan hynny oedd bod un awdurdod lleol—Cyngor Sir y Fflint—wedi cael cymorth o oddeutu £1.3 miliwn ar gyfer gwasanaethau anfasnachol ac, mewn cyferbyniad, yn Wrecsam drws nesaf rwy'n credu bod y gyllideb wedi cael ei gostwng i sero. Mae hynny wedyn yn rhoi pwysau ar y gwasanaethau hynny sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol oherwydd bod gennych un awdurdod lleol sydd ag adnoddau ar gael, er yn gyfyngedig iawn, ond awdurdod lleol arall heb adnoddau o gwbl. Felly, mae'n bwysig iawn bod awdurdodau lleol yn yr uwchgynhadledd ar fysus yn y flwyddyn newydd yn gallu dysgu a chyfrannu cymaint â’r gweithredwyr gwasanaethau bysus eu hunain.

Credaf fod hynny’n ymdrin â’r holl gwestiynau a ofynnodd yr Aelod.