7. 6. Datganiad: Dyfodol Gwasanaethau Bysiau yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 5:44, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n croesawu'r pum pwynt a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet, a chroesawaf y pwysigrwydd y mae’n ei roi ar fysus, sydd yn amlwg yn rhan hanfodol o'n system drafnidiaeth. Y pwynt cyntaf yr oeddwn am ei wneud, mewn gwirionedd, oedd am bwysigrwydd bysus i bobl ifanc. Mae hyn eisoes wedi cael ei grybwyll yn y ddadl, ond rwy’n meddwl ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn ystyried barn pobl ifanc pan fyddwn yn cynllunio trafnidiaeth. Rwyf wrth fy modd ei fod yn mynd i gael uwchgynhadledd yn gynnar yn y flwyddyn newydd. A all ef sicrhau bod pobl ifanc yn bresennol yn yr uwchgynhadledd? Nid oes gennym senedd ieuenctid eto, ond rhaid bod ffyrdd o gael pobl ifanc—grwpiau cynrychioliadol o bobl ifanc—fel eu bod yn gallu cymryd rhan yn y drafodaeth a dweud sut mae cludiant yn bwysig iddynt hwy. Rwy’n credu ei bod yn ffaith hollbwysig nad oes gan 64 y cant o’r bobl sy'n chwilio am waith gerbyd at eu defnydd neu nid ydynt yn gallu gyrru. Felly, mae'n gwbl hanfodol i bobl ifanc—ac wrth gwrs, nid pobl ifanc yw’r unig bobl sy'n chwilio am waith, ond mae nifer fawr ohonynt yn chwilio am waith—eu bod yn gallu cael mynediad i gerbyd ac yn gallu, mewn gwirionedd, cyrraedd cyfweliadau am swyddi. Felly, rwy’n meddwl mai swyddogaeth i bobl ifanc yw'r peth cyntaf yr wyf am ei grybwyll.

Yr ail beth yw tagfeydd. Rwy'n siŵr bod pobl yn penderfynu peidio â theithio ar fysus oherwydd y tagfeydd a'r arafwch, weithiau, o deithio ar fysus. Yn sicr, mae fy etholaeth i yn un gwbl drefol bron, lle mae tagfeydd llwyr ar draffig yn aml. Felly, a fyddai'n canmol Cyngor Caerdydd ar ei ymdrechion i gyflwyno lonydd bysus ac, yn benodol, gyflwyno'r lôn fysus ar Heol Caerffili? Mae hon wedi bod yn hynod ddadleuol ac wedi achosi amharu difrifol i'r holl gymdogion, ond rwy’n meddwl, yn y tymor hir, y bydd yn sicr yn symud pethau ymlaen. Yna soniwyd am gyfnewid a chysylltedd, ac mae'n hollol wych bod gorsaf fysus Caerdydd, a grybwyllwyd gan fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone yn gynharach y prynhawn yma, mewn gwirionedd yn awr yn dechrau cael ei hailadeiladu. Ond os oes unrhyw beth y gall ei wneud i annog Network Rail i gadw at eu rhan nhw o'r fargen a gwneud yn siŵr o leiaf y bydd pobl sy’n teithio o'r orsaf fysus i'r orsaf drenau yn gallu gwneud hynny dan do, rwy’n meddwl y byddai’n werth chweil gwneud hynny.

Mae wedi cyfeirio at bobl anabl. Rwyf wir yn croesawu'r hyn a ddywedodd am bobl anabl a gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynnwys yn yr holl drafodaethau ac mewn unrhyw ddadl yn y dyfodol. Hoffwn orffen drwy ddiolch i Bus Users Cymru, sy’n gwneud gwaith ardderchog yn fy marn i. Gwn fod derbyniad yfory, rwy’n meddwl, sy'n cael ei gynnal gan Jane Hutt yma. Ond rwy'n credu bod y pwyntiau y maent yn eu gwneud—y ffaith bod 41 y cant o’r bobl sydd wedi cysylltu â nhw wedi dweud eu bod yn pryderu am lefel y gwasanaeth—yn dangos yr angen a'r galw sydd yng Nghymru am y conglfaen hwn o’r gwasanaeth .