Part of the debate – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 19 Hydref 2016.
Lywydd, am 9.15 y bore ar 21 Hydref 1966 newidiodd Cymru am byth. Pan lithrodd tomen Rhif 7 Ynysowen drwy niwl y bore mewn ton 40 troedfedd a lyncodd ysgol gynradd Pantglas a’r adeiladau cyfagos, fe gafodd effaith ddofn ar y gymuned, wrth gwrs, ond hefyd ar y byd ehangach. Roedd fy mam yn athrawes ysgol ifanc, yn feichiog gyda mi, pan glywodd am y newyddion o Aberfan. Roedd yn amser egwyl yn yr ysgol gynradd lle roedd hi’n dysgu. Daeth y pennaeth i mewn a dweud, ‘Mae yna ysgol ym Merthyr wedi dymchwel. Nid ydym yn gwybod a oes unrhyw un wedi brifo.’ A dyna’r cyfan a wyddent ar y pryd. Ac yna daeth y stori lawn allan yn ystod y dydd.
Fe effeithiodd arni. Dros y blynyddoedd, clywais hi’n siarad am Aberfan. Clywais hi’n sôn am athrawon a ganfuwyd wedi’u claddu gyda’u breichiau o gwmpas y plant i geisio’u hamddiffyn rhag y dilyw, a phan oedd fy mhlant fy hun yn ifanc, fe aethom i amgueddfa lofaol Big Pit, ac yno’n cael eu harddangos mae tudalennau blaen papurau newydd yn disgrifio’r trychineb, ac fe effeithiwyd arni’n ddwfn bryd hynny. Oherwydd, er nad oedd hi o Aberfan, roedd hi’n dod o bentref bach glofaol ac roedd hi’n gwybod beth fyddai’r gost i’r gymuned.
Roedd dynion yn gwybod am y peryglon o weithio dan ddaear. Roeddent yn gwybod am y peryglon o gwymp. Roeddent yn ofni cael eu llyncu gan dagnwy. Roeddent yn gwybod am rym ffrwydrol llosgnwy. Roeddent yn gwybod am y risg o gael anaf o dan y ddaear. Roedd y lamprwms yn llawn o ddynion a dystiai i hynny. Gwelodd llawer ohonom yn ein teuluoedd effaith llwch ar ysgyfaint y rhai a weithiai o dan y ddaear—a niwmoconiosis ac emffysema yn dwyn bywydau’r rheini wrth iddynt heneiddio cyn pryd a chael eu cymryd mor ifanc. Roeddent yn gwybod bod pris glo yn uchel, ond nid oeddent yn sylweddoli y byddai’r pris mor ormodol, oherwydd pwy fyddai wedi meddwl y gallai glo gymryd bywydau plant mor sydyn, a hynny uwchben y ddaear?
Ni allwn rannu profiad cymuned Aberfan a’r rhai a gollodd cymaint. Ni allwn rannu eu galar am fod eu galar yn wahanol. Mae eu galar wedi bod, ac yn dal i fod, yn digwydd o dan y chwyddwydr cyhoeddus. A bydd yr wythnos hon yn anodd. Bydd dydd Gwener yn hynod o anodd i gynifer o deuluoedd. Ond rwy’n gobeithio fy mod yn siarad ar ran pob Aelod yn y Siambr hon pan ddywedaf heddiw ein bod yn sefyll yn unedig â phobl Aberfan. Rydym yn cynnig cefnogaeth iddynt a rhywfaint o gysur gobeithio wrth iddynt ymdopi ag atgofion y diwrnod hwnnw pan ddaeth tywyllwch gaeaf yn gynnar i gymuned Aberfan.