Part of the debate – Senedd Cymru am 6:12 pm ar 19 Hydref 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Lobïo yng Nghymru—nid rhywbeth y dylem ei drafod yw hwn; mae’n rhywbeth y mae angen i ni ei drafod. Fy nod heddiw yw ailagor y ddadl a ddechreuwyd yma ar lobïo rai blynyddoedd yn ôl. Er lles iechyd democratiaeth Cymru, mae’n rhaid i ni reoleiddio lobïo masnachol a dod ag ef allan o’r cysgodion. Mae’n rhaid i ni warchod sefydliad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae lobïo yn ddiwydiant sydd wedi tyfu’n aruthrol yn ddiweddar. Yn y DU, mae’n werth £2 biliwn a mwy bellach. Dylai’r swm hwnnw o arian yn unig ddweud wrthym fod angen rheoleiddio. Yn y Cynulliad blaenorol, cyflawnodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad adolygiad o lobïo, ond roedd yr argymhellion yn wan a methodd â darparu unrhyw fath o drefn reoleiddio. Mae’r Prif Weinidog yn credu nad oes angen rheolau ar gyfer lobïwyr. Ymddengys bod hyn yn rhan ehangach o’r diwylliant yn y Cynulliad, gan wrthod cydnabod y lobïo sy’n digwydd yma. Aeth y Llywydd diwethaf mor bell ag ysgrifennu at San Steffan i ofyn iddynt hepgor Cymru o unrhyw ddeddfwriaeth ar lobïo. Dywedodd, a dyfynnaf,
‘nad ydym ni’n wynebu’r un math o faterion negyddol ynghylch cael mynediad at aelodau etholedig ag y mae San Steffan yn eu hwynebu.’
Wel, o fy amser byr yn y Cynulliad yma, mae’n glir i mi ein bod yn wynebu’r un materion. Mae fy ngheisiadau am ddyddiaduron Gweinidogion wedi cael eu gwrthod. Rwy’n credu bod hynny’n werth ei ddweud eto: Gweinidogion Cymru yn gwrthod datgelu pwy maent yn eu cyfarfod. Pam? Pam hynny? Mae’n amhosibl gweld y galwadau a wneir gan Weinidogion ar eu ffonau cyhoeddus—eu ffonau cyhoeddus—y talwn amdanynt.
Yn yr hydref, honnodd chwythwr chwiban dienw fod penderfyniad wedi’i wneud i beidio â chymeradwyo cyllid Llywodraeth Cymru i GlobalWelsh. Cafodd y busnes wybod am hyn drwy lythyr dyddiedig 5 Gorffennaf. Honnwyd bod y lobïwr, na fyddaf yn ei enwi ar y cam hwn, wedi cysylltu â’r Gweinidog a’i fod ef wedi gwrthdroi ei benderfyniad. Dywedwyd wrthyf nad oedd unrhyw waith papur na dadansoddiad i gefnogi unrhyw newid o’r fath. Ar 7 Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hysbysiad penderfynu yn datgan bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno i gefnogi sefydlu cwmni buddiannau cymunedol, GlobalWelsh, i ddatblygu rhwydwaith, ac mae hynny i’w weld yn gwrthddweud llythyr 5 Gorffennaf braidd. Ymddengys bod y chwythwr chwiban yn gywir o ran bod y cais rhyddid gwybodaeth yn dangos nad oedd unrhyw sail ar bapur dros unrhyw newid penderfyniad. Nawr, nid wyf yn honni bod unrhyw ddrygioni yma; yr hyn rwy’n ei gredu yw bod y math hwn o honiad yn dangos bod angen mawr am fwy o dryloywder ac ymagwedd agored. Bydd rheoleiddio’n amddiffyn pawb—lobïwyr, Gweinidogion a’r cyhoedd.
Ar ôl mis Mai 2011, pan oeddwn yn ddirprwy arweinydd cyngor Caerdydd, methais gael cyfarfod â’r Gweinidog—methu’n llwyr â chael cyfarfod. Ac roedd pobl sy’n gwybod am beth y maent yn sôn yn dweud wrthyf y gellid trefnu cyfarfod gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru pe baech yn talu £3,000 i gwmni lobïo. Nawr, rwy’n pwysleisio nad yw’r arian hwn yn mynd i’r gwleidydd, mae’n mynd i’r cwmni lobïo. Felly, rwy’n honni bod ‘arian am fynediad’ yn bodoli ym Mae Caerdydd. Ac rwy’n herio unrhyw Weinidog yma, unrhyw Weinidog sy’n bresennol, i ddweud ar gyfer y cofnod nad oes unrhyw lobïwr erioed wedi hwyluso’r ffordd i rywun gael eu cyflwyno iddynt. Ni allant ei ddweud, yn fy marn i. Felly, mae’r ffaith fod y cyn-Lywydd wedi honni nad oes lobïo o natur arbennig yn digwydd yma nid yn unig yn anghywir ond yn eithaf sarhaus i’r Cynulliad a’r cyhoedd yng Nghymru. Dywedodd y Llywydd blaenorol hefyd mai’r Cynulliad a ddylai benderfynu sut i reoleiddio lobïo, ac rydym yn cytuno ar hynny. Ond hyd yn hyn, ni chafwyd unrhyw ddeddfwriaeth. Nid wyf yn credu mai pwynt cael ein hepgor o ddeddfwriaeth San Steffan oedd gadael Cymru heb ddiogelwch o gwbl, ond yn hytrach, er mwyn i ni allu wynebu’r diwydiant lobïo sy’n amgylchynu’r sefydliad hwn a chyflwyno deddfwriaeth ein hunain ar lobïo sy’n arwain y byd.
Mae angen i ni gyrraedd lle yn y Cynulliad lle mae’n agored i’r cyhoedd, ond lle nad yw’n llydan agored i lobïwyr. A dyna pam rwy’n cynnig bod y Llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth ar lobïo gyda chofrestr o lobïwyr a fydd yn cyflawni tri pheth. Byddem yn gwybod yn syml pwy yw’r lobïwyr gan y byddai’n rhaid iddynt arwyddo’r gofrestr. Byddem yn gwybod pwy sy’n lobïo pwy ac am beth, felly pe bai lobïwr cofrestredig yn cyfarfod â Gweinidog y Llywodraeth, byddai hynny’n cael ei gofnodi’n swyddogol, a byddai diben y cyfarfod yn hysbys. Yn drydydd, dylem wybod faint sy’n cael ei dalu i’r cwmni lobïo am gael mynediad. Mae hynny’n hollbwysig. Os na wnawn hyn, yna bydd lobïo’n parhau i ddigwydd yn y cysgodion, sy’n rysáit ar gyfer llygredd.
Yn ystod dadl refferendwm yr UE, roedd llawer yn ystyried nad oedd yr UE yn rhywbeth ar eu cyfer hwy. Mae 30,000 o lobïwyr ym Mrwsel—a 75 y cant o ddeddfwriaeth Ewropeaidd yn cael ei heffeithio ganddynt. Ac o’r hyn rwyf wedi ei ddysgu gan bobl sy’n gweithio ym Mrwsel, mae’n amhosibl i unrhyw un o unrhyw bwys newynu amser cinio gan fod cymaint o brydau am ddim, ciniawau am ddim, diolch i gardiau busnes y lobïwyr—eu cardiau credyd busnes. A phe baem yn edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn refferendwm yr UE, yn amlwg yng Nghymru, mae ar raddfa lai yn y fan hon. Ond pe baech yn edrych ar Blaid Diddymu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’r gefnogaeth a gawsant, yna dylai fod yn destun pryder, oherwydd ni allwn gymryd pethau’n ganiataol, ac ni allwn anwybyddu swigen y diwylliant lobïo yn y Bae.
Mewn sawl ffordd, mae Cymru’n hollol agored i lobïo—rydym yn cynnal ein gwasanaeth iechyd ein hunain, y system ysgolion hefyd, rydym yn llunio deddfau. Rydym yn ffodus ar hyn o bryd oherwydd bod cwmnïau lobïo wedi bod â mwy o ddiddordeb yn Lloegr nag yng Nghymru. Ond pan fyddant wedi dod i ben â phreifateiddio gwasanaethau cyhoeddus Lloegr, ble y byddant yn troi eu golygon nesaf? Ac mae’n destun pryder fod lobïwyr sydd wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru wedi cael cryn lwyddiant. Yn 2013 aeth Llywodraeth Cymru ati i gyflwyno targedau effeithlonrwydd ynni yn y cartref, gyda gostyngiad o 40 y cant mewn allyriadau carbon. Yn awr, yn lle hynny, dewisodd y Llywodraeth yr opsiwn o 8 y cant yn unig ar ôl lobïo dwys gan y datblygwyr tai. Ar y pryd, dywedodd Cyfeillion y Ddaear yn gyhoeddus eu bod wedi’u rhyfeddu gan y ffordd roedd y datblygwyr wedi cerdded dros Lywodraeth Cymru. Yn ddiweddarach, mae’n ymddangos bod datblygwyr mawr, fel Persimmon Homes, yn gleientiaid i lobïwyr yng Nghaerdydd, a dyna pam ein bod angen cofrestr.
Mae’n wir fod rhai cwmnïau lobïo’n cofrestru’n wirfoddol gyda’r Gymdeithas Ymgynghorwyr Gwleidyddol Proffesiynol, ond mae cipolwg cyflym ar y gofrestr yn dangos beth rydym yn ei wynebu. Caiff Cymdeithas Diodydd Meddal Prydain ei chynrychioli gan lobïwyr. Maent wedi bod yn dadlau yn erbyn unrhyw fath o dreth siwgr, sy’n gynnig allweddol ym maniffesto fy mhlaid i ddarparu 1,000 o feddygon ychwanegol. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi bod yn annog gwledydd i gyflwyno’r dreth hon. Mae Cymdeithas Diodydd Meddal Prydain hefyd wedi brwydro yn erbyn unrhyw gynlluniau i wahardd gwerthu diodydd egni melys iawn sy’n cynnwys caffein i blant.
Y broblem gyda chofrestr wirfoddol yw mai ychydig a wyddom am yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd a phwy sy’n dylanwadu ar ba benderfyniad. Dangosodd y chwalfa fancio nad yw hunanreoleiddio’n gweithio o gwbl. Mae llawer o gwmnïau hefyd yn gweithredu ledled y DU, sy’n golygu ei bod yn amhosibl gwybod a ydynt yn dylanwadu ar Ogledd Iwerddon, yr Alban neu’n wir, Cymru. Un o’r agweddau mwyaf peryglus ar lobïo yw’r drws tro sydd wedi sefydlu rhwng y Cynulliad hwn a’r cwmnïau lobïo sy’n ceisio dylanwadu arno. Mae’r cwmnïau hyn wedi’u llenwi fwyfwy ag wynebau cyfarwydd—cyn-Aelodau Cynulliad, cynghorwyr arbennig, cyn-swyddogion y Llywodraeth—a dylem i gyd sylweddoli bod gwybodaeth yn gyfrwng gwerthfawr, ac o’i chael, weithiau’n anffurfiol, caiff ei gwerthu i’r sawl sy’n cynnig fwyaf amdani.
Un o’r dadleuon a wnaeth lobïwyr yn erbyn y gofrestr yng Nghymru yn adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad oedd ei bod yn amhosibl diffinio beth yw lobïwr. Ond mae cofrestri lobïwyr gorfodol yn bodoli mewn sawl gwlad. Mae gan Lywodraeth Awstralia ddeddfwriaeth sy’n golygu bod, a dyfynnaf, rhaid i unrhyw lobïwr sy’n gweithredu ar ran cleientiaid trydydd parti at ddibenion lobïo cynrychiolwyr y Llywodraeth fod wedi cofrestru ar y Gofrestr Lobïwyr ac mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gofynion y Cod Lobïo.
Dyna’r gyfraith.
Mae Tŷ’r Cyffredin Canada wedi ei gwneud yn orfodol i gomisiynydd lobïo gadw cofrestr o lobïwyr ynghyd â rheoliadau sy’n pennu’r ffurf a’r dull y mae’n rhaid i lobïwyr eu dilyn ar gyfer cofrestru eu gweithgareddau pan fyddant yn cyfathrebu â deiliaid swyddi ffederal a chyhoeddus.
Yn Ffrainc, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol gofrestr a gedwir gan Ysgrifenyddiaeth Gyffredinol Llywyddiaeth y Cynulliad Cenedlaethol. Yn yr Unol Daleithiau, mae’n rhaid i ddatgeliadau gorfodol gan lobïwyr gael eu cadw’n electronig bob chwarter wrth lobïo aelod o Senedd yr Unol Daleithiau ac mae’n ofynnol i gwmnïau lobïo gadw cyflwyniadau a chofrestriadau ar wahân ar gyfer pob cleient. Yn nes at adref, mae’r Alban ar hyn o bryd yn pasio Deddf lobïo a fydd yn arwain at gofrestr lobïwyr ac sydd hefyd yn pennu beth yw lobïo wedi’i reoleiddio.
Mae’r ddeddfwriaeth yn San Steffan, y gofynnodd y cyn-Lywydd i ni gael ein hepgor ohoni, wedi creu cofrestr o lobïwyr. Yng Nghymru, nid oes gennym ddim ac mewn gwirionedd mae angen i ni fynd ymhellach o lawer na chofrestr—mae angen i ni wybod natur y cytundeb rhwng cwmnïau lobïo masnachol a’r cleientiaid fel ei bod yn glir pwy maent yn ceisio’u cynrychioli ac i ba ddiben. Rwy’n credu ei fod yn eithaf syml. Mae’n bryd i ni ymuno ag Awstralia, Canada, Ffrainc, yr Unol Daleithiau a hyd yn oed yr Alban a San Steffan a chyflwyno deddfwriaeth gadarn ar lobïo.
Gallwn wneud lobïo’n fwy agored a sicrhau bod yna ddiwylliant tryloyw yn y Cynulliad hwn a dyna pam rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth lobïo ar unwaith gan mai dyna’r peth iawn i’w wneud. Diolch yn fawr.