Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 19 Hydref 2016.
Ddirprwy Lywydd, rwy’n croesawu’r cyfle i ymateb i’r ddadl hon gan ei fod yn caniatáu i mi ailadrodd safbwynt Llywodraeth Cymru ar lobïo Gweinidogion. Mae’n safbwynt syml iawn. Rwy’n falch iawn o ddweud yn glir heddiw nad yw Gweinidogion yn cyfarfod â lobïwyr masnachol ac rwy’n ddiolchgar eich bod wedi caniatáu i Gadeirydd y pwyllgor safonau roi diweddariad i ni ar waith y pwyllgor, gyda Chadeirydd newydd yn y pumed sesiwn, ac ar y gwaith pwysig y maent yn ei wneud yn y maes hwn.
Wrth gwrs, mae wedi bod yn destun craffu dros y blynyddoedd diwethaf. Ond rwy’n falch fod mwy o waith yn cael ei wneud gan y pwyllgor bellach ac yn falch y bydd y comisiynydd yn ymateb maes o law. Ac wrth gwrs, rydych wedi tynnu sylw at waith blaenorol. Bydd yr Aelodau yma’n ymwybodol fod Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad wedi cyhoeddi adroddiad ym Mai 2013 ar drefniadau’r Cynulliad mewn perthynas â lobïo, ac rwy’n credu ei bod yn werth ystyried yr adroddiad hwnnw. Roedd yn dilyn ymgynghoriad ac adolygiad eang o’r trefniadau gan Gomisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gynhaliwyd yn 2012. Dywedodd
‘mai barn unfryd pawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad sy’n gweithredu yng Nghymru a/neu yn y Cynulliad Cenedlaethol yw bod arferion lobïo, yn eu hanfod, yn dryloyw a’u bod yn cael eu plismona a’u rheoleiddio’n ddigonol’
Ond dywedodd hefyd—a chomisiynydd safonau annibynnol Cymru yw hwn—ei bod yn ffaith na wnaed unrhyw gŵyn yn erbyn Aelod mewn perthynas â lobïo yn ystod y blynyddoedd diwethaf, neu’n wir, cyn belled ag y gallai’r comisiynydd ei weld, ers ffurfio Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, nid yw’n syndod fod y comisiynydd wedi dod i’r casgliad pendant, a dyfynnaf,
‘bod y trefniadau presennol sydd yn eu lle ar gyfer rheoleiddio lobïo, fel y maent yn berthnasol i Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol, yn eu hanfod yn ddigon cadarn ac addas i’r diben’
Dyna oedd y casgliad a gafodd ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y pryd. Ac fe aeth y pwyllgor i’r afael yn uniongyrchol â’r cwestiwn o gofrestr lobïwyr bosibl ond daeth i’r casgliad nad oedd yn ateb rhesymol na chymesur yng Nghymru i’r pryderon a fynegwyd bryd hynny ynglŷn â gweithgareddau lobïo—pryderon a fynegwyd ar lefel y DU yn unig ac nid yng Nghymru o gwbl. Pan gyhoeddodd y pwyllgor ei adroddiad, cafodd ei ystyried yn ofalus gan y Prif Weinidog yng nghyd-destun sut y mae Gweinidogion Cymru yn gweithredu ac nid oedd Gweinidogion yn cyfarfod â lobïwyr masnachol bryd hynny, ac nid ydynt yn gwneud hynny yn awr, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol. A chan na lwyddodd y comisiynydd safonau na’r pwyllgor i ganfod tystiolaeth o broblem, daeth y Prif Weinidog i’r casgliad nad oedd unrhyw achos dros weithredu mewn perthynas â Gweinidogion Cymru ac mae hynny’n parhau i fod yn wir heddiw. Nid oes dim a glywais gan yr Aelod heddiw sy’n peri i mi gwestiynu’r penderfyniad hwnnw.
Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol fod gweithwyr proffesiynol materion cyhoeddus yng Nghymru wedi ymrwymo i weithredu’n broffesiynol, yn gyfrifol ac yn dryloyw, ac mae eu corff aelodaeth Public Affairs Cymru wedi dangos hyn drwy weithio’n rhagweithiol ar ddatblygu a gweithredu cod ymddygiad y mae pob un o’i aelodau wedi ymrwymo iddo ac sy’n rhaid iddynt ei gynnal. Rwy’n croesawu’r cod hwn a’r dystiolaeth y mae’n ei roi bod y proffesiwn materion cyhoeddus yng Nghymru yn benderfynol o fod, a chael ei weld i fod, yn broffesiynol a moesegol.
Wrth gwrs, bydd cymariaethau bob amser yn cael eu gwneud â’r hyn sy’n digwydd mewn mannau eraill ac ydi, mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu cofrestr o lobïwyr ymgynghorol. Ac efallai nad yw hynny’n syndod, o ystyried mai yn San Steffan bob amser y mae dadleuon ynglŷn â lobïo wedi digwydd. Fodd bynnag, nid yw’r gofrestr ond yn cynnwys lobïo ymgynghorol ac mae hynny’n golygu nad yw ond yn cwmpasu cyfran fechan o ddiwydiant lobïo’r DU. Yn wir, ar hyn o bryd, 114 yn unig sydd wedi’u cofrestru arni. Felly, nid yw trefniant y DU yn fodel o fynediad cyhoeddus cynhwysfawr at wybodaeth am lobïo. Rwyf eisoes wedi dweud nad yw Gweinidogion yn cyfarfod â lobïwyr masnachol, ond maent, wrth gwrs, yn cyfarfod â llawer o bobl a sefydliadau ac yn ystyried ystod eang o safbwyntiau fel rhan o’r broses o lunio polisi’r Llywodraeth, ond mae cod y gweinidogion yn ei gwneud yn glir y dylid cofnodi holl ffeithiau sylfaenol pob cyfarfod ffurfiol o’r fath rhwng Gweinidogion a grwpiau buddiant allanol. Mae’n ofynnol i bob Gweinidog gydymffurfio â chod y gweinidogion, ac mae’r Prif Weinidog yn atebol am eu hymddygiad. Ac fel y mae wedi dweud yn glir ar sawl achlysur, ni fydd y Prif Weinidog yn oedi rhag gweithredu os oes ganddo dystiolaeth fod y cod wedi cael ei dorri mewn unrhyw ffordd. O ganlyniad, mae’r Prif Weinidog yn atebol i’r Cynulliad hwn, ac nid oes amheuaeth y byddai’r Siambr hon yn gofyn iddo amddiffyn ei benderfyniadau yma ar unrhyw fater a gyfeiriwyd ato o dan y cod na chafodd ei drin yn foddhaol.
Sicrwydd pellach o ddidwylledd a thryloywder yw Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, gyda’i gylch gwaith i archwilio darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y modd y caiff adnoddau eu defnyddio wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae ganddo rôl bwysig yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Ac rwy’n parchu hawl yr Aelod i ofyn y cwestiwn hwn fel testun dadl fer, ond nid oes tystiolaeth i gyfiawnhau cyflwyno trefniadau newydd ar lobïo yng Nghymru. Rwy’n gobeithio fy mod wedi rhoi sicrwydd i’r Aelod fod hanes y Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru yn dangos ymrwymiad a rennir i fonitro hyn yn effeithiol ac yn briodol. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo—ac rwy’n credu mai dyma’r pwynt pwysicaf wrth ymateb i ddadl fer yr Aelod heddiw—mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod tryloywder ac atebolrwydd i’r cyhoedd yn egwyddor sylfaenol yn y modd rydym yn gweithredu.