<p>Gwariant Cyfalaf Diweddar Awdurdodau Lleol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:50, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, rwy’n ategu canmoliaeth Vikki Howells i gyngor Rhondda Cynon Taf, a chynghorau ledled Cymru yn wir am y modd y maent wedi croesawu rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae dros 150 o ysgolion a cholegau ledled Cymru yn gweld eu safleoedd yn cael eu hailadeiladu a’u hadnewyddu. Ond y pwynt a wnaeth fy nghyd-Aelod yn ei chwestiwn atodol tuag at y diwedd yw’r pwysicaf efallai. Mae ysgolion yn fwy nag adeiladau; mae’n ymwneud â’r neges y maent yn ei chyfleu i bobl ifanc am ba mor werthfawr ydynt i ni a’r cyfleoedd y bydd safleoedd priodol o’r math hwn yn parhau i’w darparu yn y dyfodol.