<p>Gwariant Cyfalaf Diweddar Awdurdodau Lleol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:51, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn hwnnw. Rwy’n credu bod hanes Caerdydd o ddefnyddio gwariant cyfalaf at ddibenion amgylcheddol o’r math hwn yn rhagorol. Mae’r bwriad diweddaraf i ddefnyddio gwariant cyfalaf ar oleuadau stryd yn y ddinas yn rhan o batrwm ehangach lle maent wedi defnyddio arian, sydd ar gael drwy Lywodraeth Cymru yn rhannol, ar gyfer effeithlonrwydd ynni goleuadau stryd, effeithlonrwydd ynni adeiladau cyngor a rhaglenni goleuo ysgol—yn Ysgol Gynradd Rhydypenau yn ei hetholaeth ei hun, er enghraifft. Mae’n enghraifft dda iawn o’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn defnyddio’r cymorth sydd ar gael i ddatgarboneiddio’u gwariant, gan ddarparu gwell dyfodol, nid yn unig i’w dinasyddion eu hunain, ond i’n cenedl gyfan.