<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:01, 19 Hydref 2016

Diolch. Fel cyn-aelod cyllid ar gabinet Cyngor Gwynedd, rydw i’n falch iawn o weld bod yna ddechrau, rŵan, diwygio ar y fformiwla a bod yr elfen wledig o wariant gwasanaethau cymdeithasol yn gallu amrywio a bod yn bwysau ychwanegol, wrth gwrs, ar gynghorau mewn ardaloedd gwledig.

Mae yna ffyrdd eraill o ddiwygio’r fformiwla, ac mae sawl grŵp, megis Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Ffederasiwn Busnesau Bach, wedi bod yn galw ar y Llywodraeth i ddiwygio’r fformiwla, gan gyfeirio’n benodol at y defnydd o hen ddata, sy’n deillio o gyfrifiadau blaenorol. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd ar gyfer setliad blwyddyn nesaf i sicrhau bod y data a ddefnyddiwyd yn ddata mwy cyfredol ac yn adlewyrchu amodau heddiw yn well? A ydych chi’n meddwl ei bod hi, rŵan, yn amser adolygu’r fformiwla yn y ffordd yna hefyd?