Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 19 Hydref 2016.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fel y dywedodd Sian Gwenllian, mae eich cytundeb cyllideb, a gyhoeddwyd ddoe, yn cynnwys cyllid ychwanegol o £25 miliwn i awdurdodau lleol, ond daw hyn yn sgil y £761 miliwn o ostyngiad mewn termau real mewn cyllid allanol cyfun, fel y nodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae hynny rhwng 2011 a 2016-17. Sut rydych chi’n mynd i sicrhau bod yr arian ychwanegol sy’n mynd i gael ei dderbyn gan awdurdodau lleol eleni yn cael ei ddosbarthu’n gyfartal ac yn deg ar draws yr awdurdodau hynny?