<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 2:06, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae hwn yn amlwg yn faes pwysig iawn i awdurdodau lleol ledled Cymru, yn ariannol. Mae’r rhaglen lywodraethu’n ymrwymo i gyllid gwaelodol ar gyfer setliadau llywodraeth leol yn y dyfodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer awdurdodau gwledig sydd wedi cael bargen waelach yn gyson, am ba reswm bynnag—efallai y bydd gennych chi a minnau syniadau gwahanol am y rhesymau dros hynny. Ond am ba reswm bynnag, maent yn gyson wedi cael bargen waelach na’u cymheiriaid trefol ar draws Cymru. Mae hynny’n ffaith. Ond pa bryd rydych yn rhagweld y cyllid gwaelodol newydd yn dod yn weithredol? Ac a allwch chi gadarnhau y bydd yn cael ei weithredu’n llawn eleni ac ar ba lefel?