Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 19 Hydref 2016.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch wrth y Pwyllgor Cyllid y bore yma fod yna £10 miliwn yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i gynlluniau peilot ar gyfer cynlluniau gofal plant y Llywodraeth. Rwy’n meddwl eich bod wedi dweud y bydd y gyllideb gyffredinol yn £84 miliwn pan fydd yn gwbl weithredol. A gawn ni, felly, ragdybio y bydd oddeutu un ardal o bob wyth yn elwa o gynllun peilot, a pha bryd y byddwn yn clywed lle bydd y rhain?