Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 19 Hydref 2016.
Wel, Lywydd, rwy’n hapus i gadarnhau yr hyn a ddywedais wrth y Pwyllgor Cyllid: os ydych am gynllunio system sy’n cynnwys cyfranogiad gweithredol rhieni o’i mewn ac sy’n dysgu o’r hyn y maent yn ei ddweud wrthym am y math o ofal plant y byddant ei angen yn y dyfodol, mae angen trefnu’r rhaglen i ystyried y safbwyntiau hynny, a bydd hynny’n golygu cronni’r capasiti y byddwn yn ei ddatblygu dros amser. Rwy’n eithaf siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb yn edrych ar gyfraniadau’r gwahanol sectorau sydd eisoes yn bodoli ar gyfer gofal plant yng Nghymru, a bydd yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod yn alinio’r rheini yn y ffordd sy’n diwallu anghenion rhieni orau, gan gynnwys yr angen am hyblygrwydd.