<p>Cyllid Llywodraeth Leol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:25, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n gwrando’n ofalus iawn ar yr hyn y mae awdurdodau gwledig yn ei ddweud wrthyf, ac mae’r newidiadau i elfen y gwasanaethau cymdeithasol yn y fformiwla eleni yn bendant yn ymateb i’r ddadl a gyflwynwyd gan yr awdurdodau hynny. Rwy’n ofni y bydd yn rhaid i’r Aelod aros gyda phawb arall i weld effeithiau penodol y newidiadau hynny ar awdurdodau penodol ar gyfer y flwyddyn nesaf.