Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 19 Hydref 2016.
Wel, yn sicr, rwy’n llongyfarch cynghorau Merthyr Tudful a Chaerffili am yr ymagwedd y maent wedi ei mabwysiadu a’r arweinyddiaeth y maent wedi ei dangos yn y maes hwn. Credaf fod yr Aelod wedi dechrau â’r achos pwysicaf dros y cyflog byw gwirioneddol, sef ei fod o fudd i gyflogwyr yn ogystal â gweithwyr mewn gwirionedd, a bod manteision busnes pendant i gwmnïau sy’n talu’r cyflog byw gwirioneddol o ran llai o salwch, llai o absenoldeb, llai o gostau recriwtio, a llai o gostau hyfforddi. Mae’n gwneud synnwyr busnes da, ac mae’r arweinyddiaeth a ddangoswyd gan awdurdodau lleol yn y maes hwn yn gymorth i ddangos hynny.