<p>Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 2:30, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am hynny. Gan fod peidio â bwrw ymlaen ag argymhellion comisiwn Williams wedi golygu erbyn hyn wrth gwrs fod angen i ni geisio sicrhau mwy o gydweithredu rhwng awdurdodau lleol, tybed a allech roi ychydig rhagor o wybodaeth i ni ynglŷn â’r trafodaethau rydych wedi’u cael gydag awdurdodau lleol neu gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. A ydych wedi nodi amserlen ar gyfer gallu gweld rhai manteision pendant o ganlyniad i gydweithredu rhwng awdurdodau lleol?