Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 19 Hydref 2016.
Mae cynnydd da yn cael ei wneud ar weithredu’r Ddeddf, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i gyhoeddi ‘Symud Cymru Ymlaen’. Mae wedi ein hymrwymo i ddatblygu pedair strategaeth drawsbynciol wedi’u harwain gan ein hamcanion lles. Byddaf yn cyhoeddi’r fersiwn gyntaf o amcanion llesiant Gweinidogion Cymru erbyn 5 Tachwedd, fel y mae’r Ddeddf yn ei wneud yn ofynnol.