<p>Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:33, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, Ddirprwy Lywydd, fe’m holwyd ynglŷn â hyn o flaen y Pwyllgor Cyllid y bore yma, a cheisiais nodi’r ffordd y mae’r gyllideb wedi’i halinio â’r pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf. Nid wyf am eu hailadrodd i gyd, ond gobeithiaf fy mod wedi gallu dangos ein bod wedi ystyried hyn o ran y tymor hir, gan gydbwyso anghenion cenedlaethau presennol â chenedlaethau’r dyfodol, ein bod wedi ceisio cynnwys pobl yn y ffordd y gwnaethom y penderfyniadau hynny, a bod Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, drwy ein penderfyniadau cyllidebol, a’r polisïau a nodir yn ‘Symud Cymru Ymlaen’, wedi darparu ffordd o edrych ar y camau gweithredu ar draws y Llywodraeth yn ei chyfanrwydd.