Part of 3. 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 19 Hydref 2016.
A gaf fi achub y blaen ar eich arolwg teithio a dweud fy mod eisiau car trydan? Ond a minnau’n byw yn Aberystwyth, ni allaf deithio i lawr i Gaerdydd os na allaf ei wefru yma. Felly, beth am i ni gymryd y cam hwnnw? Beth am ddangos y byddwn yn arwain y ffordd o ran ymateb i newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd, a rhoi’r seilwaith hwnnw yma? Ar bob cyfrif, codwch dâl am wefru. Roedd rhai o’r problemau gyda chyfleusterau gwefru yn y gorffennol yn ymwneud â rhyw syniad fod yn rhaid iddo fod yn rhad ac am ddim. Nid oes rhaid iddo fod yn rhad ac am ddim, ond mae’n rhaid iddo fod ar gael, fel arall ni allwn symud tuag at sicrhau atebion trafnidiaeth mwy cynaliadwy.