Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 19 Hydref 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd yn ganolog i genedl y Cymry. Dyma’r glud sydd yn clymu ein cymdeithas ynghyd. Mae Plaid Cymru wastad wedi sefyll dros wasanaethau cyhoeddus, dros y bobl sy’n eu cyflwyno, a dros y cymunedau a’r aelwydydd sy’n eu derbyn. Mae’r sector cyhoeddus yn bartner hanfodol i’r sector preifat i wneud Cymru yn genedl fwy ffyniannus, teg a chynaliadwy. Mae gwasanaethau cyhoeddus hefyd yn sylfaen i lwyddiant y sector preifat, o addysg a sgiliau i ddarparu cludiant cyhoeddus, seilwaith a chyfleon am waith yn sgil polisïau caffael cadarn. Mae llwyddiant neu fethiant gwasanaethau cyhoeddus hefyd yn allweddol o ran pennu cynnydd y genedl Gymreig, ond mae dyfodol y gwasanaethau hynny mewn perygl sylweddol a difrifol. Ni fedrwn orbwysleisio difrifoldeb her llymder ar adeg pan fo demograffeg yn newid.
Mae’r Sefydliad Astudiaethau Ariannol ac eraill wedi rhagweld y bydd y galw am wasanaethau iechyd yn parhau i gymryd cyfran gynyddol o gyllidebau Cymru yn y dyfodol, a fydd yn gosod straen enfawr ar y cyllid sydd ar gael i lywodraeth leol yn benodol. Mae her benodol hefyd yn wynebu Cymru o ran sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyflwyno ar lefelau priodol i leihau cymhlethdod ac i sicrhau gwell democratiaeth, craffu a chydweithrediad. Mae ein cynnig ni heddiw yn canolbwyntio ar yr elfennau hollbwysig pan yn edrych ar ddiwygio llywodraeth leol yn y dyfodol, a hynny er mwyn sicrhau y bydd yn gwasanaethu ein cymunedau ni yn effeithiol i’r dyfodol.
Rwyf am edrych yn gyntaf ar ostwng yr oedran pleidleisio i 16. Yr ieuengaf y gallwn ddenu diddordeb pobl ifanc a phlant mewn gwleidyddiaeth, y gorau. Gall cynnig y cyfle i bobl ifanc bleidleisio yn 16 oed ennyn diddordeb pobl ifanc yn yr ysgol a thu hwnt. Os nad yw pobl ifanc yn cymryd rhan yn y broses etholiadol, mae perig i ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol ganolbwyntio eu neges ar anghenion pobl hŷn. Ac, fel rydym ni wedi ei weld nifer o weithiau dros y blynyddoedd diwethaf, gwasanaethau ieuenctid sydd yn aml yn cael eu torri yn gyntaf.
O edrych ar ddiwygio trefniadau etholiadol, mae’n amlwg bod pobl wedi colli hyder mewn gwleidyddiaeth. Yn etholiadau lleol 2012, dim ond 39 y cant wnaeth fynd allan i bleidleisio. Ac, yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai, dim ond 45 y cant, ac roedd hynny yn uchel—y gyfradd uchaf ers 1999, sydd yn broblem ynddi ei hun.
Mae yna lawer o resymau dros hyn, yn amlwg, ond un ohonyn nhw yn sicr ydy’r ffaith bod nifer o bobl yn dewis peidio â phleidleisio mewn rhai ardaloedd, oherwydd mae’r un rhai sydd yn ennill bob tro. Faint o weithiau ydym ni wedi clywed hynny? Ac yn enwedig yn y wardiau cyngor sydd ddim yn cael eu herio gan unrhyw blaid arall—99 yn etholiadau lleol 2012, sef dros 8 y cant o gyfanswm y seddau.
Rhai enghreifftiau: yn Sgeti, yn Abertawe, mi enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol yr holl seddi, er iddyn nhw ond ennill 37.4 y cant o’r bleidlais. Enillodd y Blaid Lafur 29 y cant, a’r Ceidwadwyr 20 y cant, ond methu ag ennill unrhyw sedd. Ac, yn y system bresennol, gall pleidiau sydd yn gorffen yn drydydd fynd yn eu blaen i ennill y rhan fwyaf o’r seddi. Yng Nghaerdydd, yn 2008, fe ddaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn gyntaf yn ôl nifer o seddi, ond yn drydydd yn ôl nifer y pleidleisiau.
Mae system etholiadol newydd yn angenrheidiol er mwyn codi hyder pobl yn ôl mewn gwleidyddiaeth. A’n polisi hir sefydlog ni ym Mhlaid Cymru ydy cyflwyno system STV—pleidlais sengl drosglwyddadwy—er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg i bob safbwynt wleidyddol. Pan gyhoeddwyd adroddiad Sunderland yn 2002, dywedwyd mai ffurf y bleidlais sengl drosglwyddadwy oedd fwyaf addas i ddiwallu gofynion amrywiol pobl leol o ran y system etholiadol lleol, ac roedd hynny ar ôl i’r comisiwn brofi saith system etholiadol arall.
Ac, yn fy marn i, cyflwyniad STV i etholiadau llywodraeth leol yn yr Alban yw un o’r datblygiadau mwyaf cadarnhaol ers oes datganoli. Yn yr Alban, mae etholiadau llywodraeth leol yn llawer mwy cystadleuol, ac mae cyfansoddiad llywodraeth leol ei hun yn clymu’n agosach at ddymuniadau y boblogaeth. Mae’r Llywodraeth yma wedi cael y cyfle i weithredu ar argymhellion adroddiad Sunderland yn barod yn y gorffennol, ond nid ydy hynny wedi digwydd.
Ond mae hi yn bwysig nodi nad pwynt pleidiol ydy hwn, oherwydd mae’r holl bleidiau gwleidyddol wedi elwa yn anghymesur o’r system ‘first past the post’. Y cwestiwn ydy: a ydym ni am dderbyn annhegwch y broses? Ac, fel cenedl, os ydym ni wir yn credu bod pob dinesydd yn gyfartal, yna ddylem ni hefyd gredu, ac felly sicrhau, bod pob pleidlais yn gyfartal. Nid oes rheswm da dros beidio â chyflwyno STV ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Mae felly angen gwneud newid cadarnhaol er budd democratiaeth ein cenedl.
Gair am yr elfen ranbarthol yn ein cynnig ni: fel unrhyw genedl, mae ar Gymru angen arweinyddiaeth ranbarthol i roi cyfeiriad strategol sy’n adlewyrchu set o flaenoriaethau ledled Cymru, ynghyd â llywodraeth leol gref i sicrhau atebolrwydd lleol a chydlynus ar lefel y gymdogaeth. Ein cynnig ni ydy esblygu graddol, gan ddefnyddio’r strwythurau presennol i greu arweinyddiaeth newydd ar lefel rhanbarthau a chymuned. Ac mi fydd eraill o dîm y Blaid yn ehangu ar hyn ac ar agweddau eraill o’r cynnig.
O ran y gwelliannau, mi fyddwn ni yn pleidleisio yn erbyn gwelliannau’r Ceidwadwyr, yn amlwg, oherwydd maen nhw’n dileu ein pwyntiau ni. Nid ydym ni’n anghytuno efo’ch gwelliant cyntaf chi, ac, yn wir, dyma un o’r prif ffactorau sydd angen ei gysidro wrth edrych ar y ffordd y bydd llywodraeth leol yn cael ei chyllido yn y dyfodol, er mwyn sicrhau nad yw cymunedau gwledig dan anfantais anghymesur.
Efo’r ail welliant, ynglŷn â thryloywder, er bod tryloywder, wrth gwrs, yn hynod bwysig er mwyn craffu ar wariant arian y trethdalwyr, nid ydy tryloywder yn ei hun yn mynd i reoli cyflogau, nac yn mynd i greu fframwaith genedlaethol.
Ac, o ran gwelliannau Llafur, buaswn i’n hoffi mwy o eglurhad am beth yn union y mae’r Llywodraeth yn ei feddwl, yn ymarferol, efo’r geiriau sydd ym mhwynt (a), sef
‘cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy’r trefniadau etholiadol’.
Rŵan, nid wyf yn gwybod yn union beth mae hynny’n ei feddwl. A ydych chi’n cytuno efo’r angen i gyflwyno newid yn y system etholiadol neu beidio? Efallai cawn ni fwy o eglurder ar hynny. Mi fydd aelodau eraill y tîm yn ehangu ar agweddau eraill y cynnig. Diolch.