Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 19 Hydref 2016.
Rwy’n credu fy mod yn ôl pob tebyg ar y chwith, yn gorfforol ac yn wleidyddol. A gaf fi ddiolch i chi, Ddirprwy Lywydd? A gaf fi yn gyntaf oll ddychwelyd at y cynnig y mae Plaid Cymru wedi ei gyflwyno? Hoffwn gytuno â’r datganiad fod llywodraeth leol yn cyfrannu tuag at yr economi leol, y gwasanaeth iechyd a chanlyniadau addysgol.
Gan gymryd pob un yn ei dro, mae llywodraeth leol yn gyflogwr mawr iawn ac yn brynwr mawr ar draws Cymru. Mae’n chwarae rhan hanfodol yn yr economi leol, sy’n rheswm nad yw’n ymwneud â darparu gwasanaeth dros wrthwynebu creu cynghorau anferth.
Yn ail, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd llywodraeth leol i iechyd—iechyd yr amgylchedd, sy’n sicrhau diogelwch bwyd, casglu sbwriel a thrin fermin, gwasanaethau cymdeithasol sy’n darparu gofal cymdeithasol i oedolion a chadw pobl allan o’r system iechyd. Mae cyfleusterau hamdden yn cadw pobl yn heini ac yn gorfforol egnïol. Mae gwasanaethau tai yn rhoi llety addas i bobl. Mae pob un o’r rhain mewn gwirionedd yn cadw pobl allan o’r ysbyty. Gwn fod yna Aelodau sy’n gweld iechyd yn gyfystyr ag ysbytai, ond mae llywodraeth leol yn chwarae rhan bwysig yn diogelu iechyd pobl yn y wlad hon.
Mae darparu addysg drwy’r system ysgolion yn helpu i wneud Cymru yn wlad gyfoethog. Drwy gefnogaeth Llywodraeth Cymru yn adeiladu a gwella adeiladau ysgol, ac yn darparu Dechrau’n Deg, mae ansawdd yr adeiladau y mae plant yn mynd iddynt yn cynyddu’n barhaus.
A gaf fi ddweud fy mod yn cefnogi’r gyfres y cytunwyd arni yn genedlaethol o raddfeydd cyflog? Rwyf bob amser wedi cefnogi’r gyfres o raddfeydd cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol. Rwy’n mynd yn ôl at y dyddiau pan oedd gennym gydbwyllgor negodi ar gyfer prif swyddogion, lle y câi cyflog y prif swyddog ei bennu o fewn band, yn dibynnu ar faint y cyngor a’i fath. Ni welwn unrhyw reswm dros roi diwedd arno. Rhoddodd y Blaid Geidwadol ddiwedd arno. Digwyddodd o dan deyrnasiad Margaret Thatcher, a’r hyn a ddigwyddodd oedd eu bod yn meddwl y byddent yn cael pobl well i mewn o’r tu allan. Roedd gennych yr holl ddynion busnes gwych hyn yn mynd i ruthro i mewn i redeg llywodraeth leol. Nid yw wedi gweithio. Rydym wedi gweld cynnydd aruthrol yng nghyflogau prif weithredwyr ac aelodau eraill o staff uwch yng Nghymru. A oes unrhyw un yn credu mewn gwirionedd—neu efallai’n gallu pwyntio at bobl a recriwtiwyd oherwydd ein bod wedi cynyddu’r cyflogau hyn, pobl na fyddent wedi cael eu recriwtio’n flaenorol ar raddfeydd yr hen gydbwyllgorau negodi? Mewn gwirionedd mae’r rhan fwyaf ohonynt yn bobl a oedd yn gweithio mewn llywodraeth leol ac wedi cael dyrchafiad o’i mewn.
Rwy’n falch fod Plaid Cymru wedi darganfod o’r diwedd nad oes maint cywir ar gyfer swyddogaethau awdurdodau lleol—hyd yn oed yr un maes swyddogaethol. Nid y maint cywir ar gyfer rheoli datblygu yw’r maint cywir ar gyfer y cynllun strwythurol, y bydd angen iddo gwmpasu ardal lawer mwy o faint.
Yn olaf, rwy’n mynd i ddisgrifio sut y gellid trefnu gwasanaethau yn ninas-ranbarth Abertawe. Yn gyntaf, ac yn fwyaf syml, mae yna wasanaeth tân ac achub y gellir ei adlinio’n hawdd â ffin y dinas-ranbarth cyfan gan mai trosglwyddo allan o Bowys a Cheredigion yn unig sydd angen iddynt ei wneud.
Yn ail, os oes is-ranbarth economaidd yn mynd i fod, yna’r hyn sydd ei angen yw cael cynllun datblygu sy’n cyfateb i’r hen gynllun datblygu sirol ar gyfer yr ardal gyfan. Byddai hyn yn sicrhau bod modd alinio tai, datblygu economaidd a chynllunio dros y rhanbarth cyfan, ac nid dros ardal awdurdod lleol yn unig.
Mae datblygiad campws y bae yng Nghastell-nedd Port Talbot, ond mae bron yn sicr o effeithio mwy ar Abertawe nag ar Gastell-nedd Port Talbot, ac mae’n enghraifft o’r dull ar sail ardal o weithredu. Mae cryn dipyn o’r rhain lle mae pethau’n digwydd bod mewn un ardal awdurdod lleol—. Mae canolfan siopa Trostre yn effeithio ar orllewin Abertawe. Nid yw yn Abertawe, ond mae’r cyfan yn rhan o’r is-ranbarth. Felly, mae gwir angen i ni ddechrau rhoi pethau at ei gilydd.
Y trydydd polisi ar gyfer dinas-ranbarth bae Abertawe sydd angen ei gydlynu yw’r strategaeth drafnidiaeth. Mae angen yr hyn sy’n cyfateb i system metro dinas-ranbarth Caerdydd ar gyfer bae Abertawe. Mae angen i hon sicrhau bod yna rwydwaith rheilffyrdd a bysiau cydgysylltiedig sy’n gallu symud pobl o’r ardaloedd preswyl i’r prif safleoedd cyflogaeth, manwerthu a hamdden. Hefyd, mae angen i’r rhwydwaith ffyrdd gynnwys ffordd ddeuol fan lleiaf ar gyfer symud pobl rhwng canolfannau poblogaeth mawr.
O fewn y ddinas-ranbarth, gellir rhannu’n ddau yn syml—gorllewin Morgannwg a Dyfed—sy’n cyfateb i hen siroedd Dyfed, heb Geredigion, a gorllewin Morgannwg. Gellir sefydlu cydfyrddau yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, sef dau brif wasanaeth y cyngor sir yn flaenorol, a gellir gwneud yr un peth ar gyfer Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Gellid adlinio byrddau iechyd ar gyfer yr ardaloedd mwy o faint hyn i gynnwys y cydfyrddau. Byddai hynny’n alinio gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd, yn union fel roeddent o dan yr hen fyrddau iechyd fel bwrdd iechyd gorllewin Morgannwg, a oedd yn bodoli i fod yn gyfrifol am iechyd yn ei ddyddiau fel cyngor sir. Byddai hefyd yn ei gwneud yn haws i’r bwrdd iechyd ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro weithio’n agosach gyda gorllewin Morgannwg.
Dylai’r awdurdodau lleol cyfredol barhau i ddarparu gwasanaethau lleol. Mae awdurdodau lleol yn darparu amrediad eang iawn o wasanaethau, y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu darparu orau ar y lefel leol. Pobl leol yn gwneud penderfyniadau lleol ar ran yr ardal lle maent yn byw yw sail democratiaeth leol. Mae’n ymwneud â chytuno ar ddinas-ranbarthau fel yr ôl-troed sylfaenol a chael gwasanaethau a drefnir yn effeithiol o fewn y rhanbarth hwnnw wedyn.
A gaf fi ddweud un peth i gloi am y bleidlais sengl drosglwyddadwy? Y ffordd orau o ddisgrifio’r bleidlais sengl drosglwyddadwy yw ‘dyfalwch faint o seddau rydych yn mynd i’w hennill’.