Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 19 Hydref 2016.
Diolch i chi, Hefin, ac o ystyried y wybodaeth rydych wedi’i rhoi, efallai fy mod wedi camgymryd ac rwy’n tynnu fy sylwadau yn ôl.
Nid yw hyn yn tynnu dim mewn gwirionedd oddi wrth sylwedd yr angen am raddfa gyflog genedlaethol, yn debyg i raddfa gyflog y gwasanaeth sifil efallai. Byddai hwnnw i’w groesawu’n fawr.
Ond down yn awr at y mater nad yw prin wedi cael sylw heddiw—fe gyffyrddodd Rhun â’r mater—sef pleidlais i rai 16 oed. Wel, rydym yn gwrthwynebu hynny’n llwyr am y rhesymau canlynol. Y cyntaf yw’r dystiolaeth feddygol syml. Yn gyntaf, rydym yn sôn yma am y glasoed ac nid am oedolion, ac mae gwahaniaethau sylweddol rhwng y ddau grŵp. Mae rhieni wedi hen arfer sylwi ar newidiadau ymddygiadol sy’n effeithio ar lawer o blant pan fyddant yn cyrraedd blynyddoedd yr arddegau. Maent hefyd wedi sylwi nad pobl ifanc, yn aml, yw’r creaduriaid mwyaf rhesymegol. Mae gwyddonwyr yn awr yn canfod tystiolaeth gadarn o wahaniaethau meddygol gwirioneddol rhwng ymennydd oedolion ac ymennydd rhai yn eu harddegau. Dyfynnaf o ‘The Brain Teen: Still under Construction’, llyfryn a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol Iechyd Meddwl yn Maryland, UDA, y sefydliad ymchwil mwyaf yn y byd sy’n ymdrin ag iechyd meddwl:
Mae’r ymchwil wedi datgelu rhai pethau annisgwyl, yn eu plith darganfyddiad newidiadau trawiadol sy’n digwydd yn ystod blynyddoedd yr arddegau. Mae’r canfyddiadau hyn wedi newid rhagdybiaethau ynglŷn â pha bryd y mae’r ymennydd yn aeddfedu. Mewn ffyrdd allweddol, nid yw’r ymennydd yn edrych fel un oedolyn tan yr 20au cynnar.
Gallai dealltwriaeth o sut y mae ymennydd person yn ei arddegau’n newid helpu i egluro anghysondeb dyrys glaslencyndod: mae pobl ifanc yr oedran hwn yn agos at uchafbwynt gydol oes o iechyd corfforol, cryfder, a gallu meddyliol, ac eto, i rai, gall fod yn oedran peryglus. Mae cyfraddau marwolaethau yn neidio rhwng glaslencyndod cynnar a glaslencyndod hwyr. Mae cyfraddau marwolaeth drwy anaf rhwng 15 a 19 oed tua chwe gwaith yn uwch na’r gyfradd rhwng 10 a 14 oed. Mae cyfraddau troseddau ar eu huchaf ymhlith dynion ifanc a chyfraddau cam-drin alcohol yn uchel o gymharu ag oedrannau eraill. Er bod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn eu harddegau yn dod drwy’r oedran trosiannol hwn yn dda, mae’n bwysig deall y ffactorau risg ar gyfer ymddygiad a all gael canlyniadau difrifol. Mae genynnau, profiad plentyndod, ac amgylchedd person ifanc sy’n cyrraedd glaslencyndod oll yn ffactorau sy’n ffurfio ymddygiad. Gan ychwanegu at y darlun cymhleth hwn, mae ymchwil yn datgelu bellach sut y mae’r holl ffactorau hyn yn gweithredu yng nghyd-destun ymennydd sy’n newid, gyda’i effaith ei hun ar ymddygiad.
Po fwyaf a ddysgwn, y gorau y gallwn ddeall galluoedd a gwendidau pobl yn eu harddegau, ac arwyddocâd y cam hwn i iechyd meddwl gydol oes.
Diwedd y dyfyniad.
Rydym yn cydnabod bod rhai pobl ifanc yn eu harddegau’n berffaith abl i feddwl yn rhesymegol ac mae ganddynt ddealltwriaeth wleidyddol weddol soffistigedig. Fodd bynnag, nid yw hynny’n wir yn achos llawer ohonynt. Mewn sawl ffordd, cydnabu Cynulliad Cymru fregusrwydd y grŵp oedran hwn pan newidiodd y gyfraith yng Nghymru i wahardd rhai 16 a 17 mlwydd oed rhag gallu prynu sigaréts yn gyfreithlon. Os na ellir ymddiried mewn pobl ifanc yr oedran hwn i arfer crebwyll ynghylch prynu pecyn o sigaréts, yna pam ar y ddaear rydym yn cynnig ein bod yn rhoi cyfrifoldeb iddynt ethol gwleidyddion? Mae’n hurt. Mae yna ddadl fod y grŵp oedran hwn yn talu treth, ac felly y dylid rhoi hawl iddynt bleidleisio. Ond y gwir amdani yw bod y grŵp hwn, gydag ehangu prifysgolion, yn cael ei faldodi am gyfnod hwy yn ystod glaslencyndod mewn gwirionedd, gyda’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u sefydliadoli yn y system addysg hyd nes eu bod yn 21 oed neu wedi hynny.