Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 19 Hydref 2016.
Gan eich bod wedi crybwyll fy nghydweithiwr yn Sir Fynwy, Peter Fox, Weinidog, rwy’n credu y byddwch yn cofio hefyd ei fod yn un o’r bobl gyntaf yn ne-ddwyrain Cymru, neu un o’r swyddogion etholedig cyntaf, i alw am y model awdurdodau cyfunol a roddwyd ar waith mewn ardaloedd megis Manceinion Fwyaf. Rwy’n credu ei fod wedi galw amdano cyn i Blaid Cymru sôn am y math hwnnw o fodel hyd yn oed.