Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 19 Hydref 2016.
Diolch yn fawr iawn, a diolch am y drafodaeth. Rwyf i yn cytuno â’r siaradwr cyntaf, Janet Finch-Saunders, fod angen inni fod yn atebol i bobl Cymru. I mi, mae gwella ansawdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn ffordd hollol glir o fod yn atebol i bobl Cymru ac yn dangos ein hymrwymiad ni i hynny.
Nid oes yna ddêl efo Llafur. Beth sydd wedi digwydd ydy bod Llafur wedi gweld doethineb ein cynigion ni ar ranbartholi. Ond, lle rydym yn gwahaniaethu ydy ein bod ni’n teimlo nad ydy rhanbartholi yn unig ddim yn mynd at wraidd y broblem. Nid yw’n ddigon radical. Nid yw’n cael gwared ar y muriau artiffisial rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac nid oes yna bwyslais, fel sydd gennym ni, ar integreiddio.
Soniodd fy nghyfaill Neil McEvoy am yr angen am fframwaith i edrych ar reoli cyflogau uwch swyddogion. Yn glir, mae’r bwlch yn rhy fawr rhwng y rhai sydd ar frig y sefydliadau a’r rheini sydd ar y rheng flaen—y gofalwyr cartref, y cynorthwywyr dysgu, y cogyddion yn yr ysgolion, ac yn y blaen—ac mae’n rhaid inni unioni y cam yna.
Roedd Mike Hedges yn sôn am bwysigrwydd gwasanaethau o ansawdd a’r angen i reoli cyflogau hefyd. Roedd ganddo syniadau diddorol ar gyfer ardal Abertawe. Rwy’n siŵr y bydd y rheini yn cael sylw wrth symud ymlaen.
Roedd Simon yn egluro mai pwrpas y drafodaeth heddiw ydy ceisio cael ychydig bach mwy o fanylion am gynlluniau Llafur. Nid wyf yn siŵr a ydym wedi llwyddo i wneud hynny yn union. Roedd hefyd yn lleisio pryder am wanhau llywodraeth leol dros nifer fawr o flynyddoedd. Rwy’n rhannu’r pryder yna efo fo, yn enwedig o safbwynt cyllid a’r toriadau enfawr sydd yn dal yn wynebu llywodraeth leol. Yn sicr, mi fyddai grymuso cynghorau efo mwy o bwerau a chyllidebau tair blynedd yn gwneud llawer i unioni’r sefyllfa.
Soniodd Mark Isherwood am gomisiwn Williams. Y broblem rydym ni’n ei gweld ydy arafwch yr ymateb i argymhellion Williams. Gwelsom gadeirydd y comisiwn ei hun yr wythnos diwethaf, Paul Williams, yn lleisio rhwystredigaeth ynglŷn â hynny yr wythnos diwethaf.
Soniodd Rhun ap Iorwerth am yr agwedd o ddod â gofal cymdeithasol—sef y cefnder tlawd sydd wedi gweld tanfuddsoddi—ac iechyd a’r berthynas yna’n agosach at ei gilydd. Yn sicr, mae yna gamddealltwriaeth ynglŷn â’r berthynas yna. Er bod yna enghreifftiau lleol o gydweithredu gwych, ac mi fedraf i enwi Ysbyty Alltwen ger Porthmadog fel enghraifft dda iawn o sut mae gwasanaethau yn integreiddio ar lawr gwlad, nid ydy hynny’n digwydd ym mhob man, ac mae angen symud tuag at hynny.
Rwy’n sylwi bod UKIP yn cytuno â ni ar STV. Rwy’n sylwi hefyd eich bod wedi tynnu sylwadau yn ôl ar ôl cael eich cywiro gan Aelod Caerffili. Rwy’n nodi hefyd eich barn chi nad ydy ymennydd pobl ifanc yn ddigon aeddfed i bleidleisio. Rwy’n gweld hynny’n ddiddorol iawn. Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc 16 oed yr wyf i’n eu hadnabod yn aeddfed, cyfrifol, synhwyrol a rhesymegol. Mae’n biti nad ydym yn gallu dweud hynny am bawb sydd yn y Siambr yma. [Chwerthin.]
Sylwadau yr Ysgrifennydd Cabinet yn olaf, rwy’n falch o gael y rheini. Rwy’n falch bod y trafodaethau yn parhau a bod yna’n dal cyfle, yn sicr, i fod yn dylanwadu wrth inni symud ymlaen. Rwy’n rhannu’r awydd am awdurdodau lleol uchelgeisiol. Rwyf hefyd yn nodi bod natur wledig rhai awdurdodau lleol yn cael sylw gennych chi a bod yna angen gwahanol yn codi yn sgil hynny a bod angen felly i’r fformiwla gydnabod y gwahaniaethau hynny.
Rwy’n croesawu’r ffaith eich bod chi hefyd yn cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16 ac yn nodi eich sylwadau chi ynglŷn â chofrestru awtomatig yn yr ysgolion. Rwy’n meddwl y byddai hynny’n gam da ymlaen. Yn sicr, mae galluogi pobl i bleidleisio yn electronig ac i ddefnyddio dulliau llawer iawn mwy modern er mwyn caniatáu i bobl fwrw pleidlais yn rhywbeth yn sicr y dylem ni symud tuag ato. Ond, rwyf yn nodi nad ydych chi’n mynd i bleidleisio o blaid STV, ac mae hynny’n biti y prynhawn yma achos rwy’n meddwl y byddai hynny wirioneddol yn creu llywodraeth leol rymus ac y byddai pobl yn teimlo ei bod yn berthnasol iddyn nhw a bod eu pleidleisiau nhw wir yn cyfrif.
Rwy’n falch, felly, fod y syniadau awdurdodau cyfunol—bod yna fwy o drafodaethau’n gallu digwydd ynghylch hynny, a’i fod yn dal i fod ar y bwrdd. Felly, edrychwn ymlaen at fwy o drafodaethau i’r dyfodol ar hynny. Diolch yn fawr i bawb.