Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 19 Hydref 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gael cymryd rhan yn y drafodaeth yma. Mae’n od, braidd, bod y drafodaeth yn digwydd yn amser dadl wrthblaid, achos rydym yn sôn yn fan hyn am rywbeth, wrth gwrs, sydd ymhell y tu hwnt i wleidyddiaeth plaid. A dyna pam fy mod i wedi bod yn hapus iawn i fod yn un o’r rhai i arwyddo’r cynnig yma yn drawsbleidiol.
Rwy’n teimlo’n frwd iawn dros yr egwyddor o sefydlu senedd ieuenctid. Rwy’n cofio pan oeddwn i yn fy arddegau fy hun yn cael fy nhanio gan faterion cyfoes, yn cael fy neffro gan drafodaethau ar orffennol, presennol a dyfodol fy ngwlad. Mi oedd o’n ddechrau’r daith, mae’n siŵr, a arweiniodd at yr anrhydedd o gael fy ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol fy hun.
Rŵan, o edrych yn ôl, rwy’n trysori’r cyfleon a gefais i bryd hynny, profiadau fel y gymdeithas ddadlau enwog yn fy hen ysgol i, Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy. Mae gennym ni, wrth gwrs, bob math o grwpiau ar draws Cymru sy’n rhoi profiadau i bobl ifanc. Mae fy merch i yn cael budd mawr o’i gwaith efo Bwrdd Syr IfanC efo’r Urdd ar hyn o bryd. Mae eraill yn cael profiadau gwerthfawr efo’r sgowtiaid neu’r Guides. Mae mudiad y ffermwyr ifanc yn un arall pwysig iawn. Yn fan hyn, mi wnaf ddymuno’n dda i Laura Elliott, un sydd wedi cael llawer o brofiad efo’r ffermwyr ifanc ac sydd, drwy hynny yn rhannol, wedi cael ei dewis gan gangen y Cynulliad o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad i’n cynrychioli yn senedd ieuenctid y Gymanwlad yn Victoria yng Nghanada fis nesaf. Dyna werth profiad i rywun pan yn ifanc.
Mae gennym ni gyfle rŵan, wrth gwrs, i greu fforwm cenedlaethol go iawn i bobl ifanc Cymru, beth bynnag yw eu diddordebau nhw, beth bynnag fo’u cefndir. Mae adroddiad gan yr undeb ryng-seneddol o ryw ddwy flynedd yn ôl yn dweud wrthym ni fod yna seneddau ieuenctid yn bodoli mewn rhyw 35 o wledydd—mae’n bosibl bod yna fwy erbyn hynny, wn i ddim. Mae yna bob mathau o ffurfiau iddyn nhw, ac mae eu cyswllt nhw â seneddau cenedlaethol y gwledydd hynny yn amrywio.
Mi wnes i gyfarfod â gwleidydd difyr iawn o Rwanda ryw ddwy flynedd yn ôl, eto drwy fy ngwaith i efo’r Gymanwlad. Mi fu o yn aelod o senedd ieuenctid ei wlad o, ac oherwydd perthynas ffurfiol iawn rhwng y senedd ieuenctid a’r brif senedd, mi oedd o’n eistedd fel cynrychiolydd yr ieuenctid ar y senedd genedlaethol ymhlith yr aelodau seneddol eraill. Ar ôl gadael y senedd ieuenctid, mi oedd ei ddiddordeb o wedi’i danio ac mi aeth o’n ei flaen i gael ei ethol yn Aelod Seneddol.
Soniodd Nick Ramsay wedyn am fodel gwahanol o Awstralia, lle mae Biliau ieuenctid yn cael eu pasio ymlaen i’r Senedd. Felly, mae yna bob math o fodelau, ond beth am Gymru? Mae yna ryw gred bod rhyw fath o senedd ieuenctid wedi bod gennym ni yn barod yma. Mae Cymru Ifanc gennym ni rŵan, a’r Ddraig Ffynci cyn hynny. Tra roeddwn i’n feirniadol iawn o’r penderfyniad disymwth i gael gwared ar y Ddraig Ffynci, nid senedd ieuenctid oedd hi, a dyna rwyf i yn dymuno ei weld. Fforwm oedd o gan y Llywodraeth i gydgysylltu â phobl ifanc. Mae hynny’n hollol iawn, ac rwy’n gefnogol iawn i hynny, ond, yn yr un ffordd â’n bod ni’n eiddgar i sicrhau nad yw pobl Cymru yn cymysgu rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, mae hi’n bwysig iawn inni ddilyn yr egwyddor mai y Senedd yma ddylai esgor ar senedd ieuenctid.
Mae yna elfennau, i gloi, sy’n gyffredin i seneddau ieuenctid drwy’r byd. Yn gyntaf, maen nhw yno i wrando ar bobl ifanc a rhoi cyfle iddyn nhw fynegi barn. Yn ail, maen nhw yno i godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc am eu systemau gwleidyddol a seneddol sy’n effeithio ar eu bywydau nhw. Ac, yn drydydd, maen nhw yno i rymuso pobl ifanc yn y gobaith y bydd rhoi profiadau uniongyrchol o’r systemau democrataidd yn deffro eu hawydd nhw i chwarae rhan yn fwy gweithgar fel dinasyddion yn eu gwledydd. Rwy’n meddwl, o weithredu’r egwyddorion yna, y gallem osod seiliau cadarn iawn i senedd ieuenctid i Gymru.