Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 19 Hydref 2016.
Diolch am y cyfle i gael cyfrannu at y ddadl yma ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am y trafodaethau ynghylch creu senedd ieuenctid i Gymru yn y dyfodol. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol bod y Comisiwn wedi trafod y mater yma yn ystod dyddiau cynnar y pumed Cynulliad fel rhan o’r ystyriaeth ehangach ynghylch ein strategaeth dros y pum mlynedd nesaf. Un o’n tri nod strategol ar gyfer y pumed Cynulliad yw ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl a hyrwyddo llwyddiannau’r Cynulliad.
Mae gan y Cynulliad, fel Seneddau ledled y byd, her gyffredinol i gynyddu lefelau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’n prosesau gwleidyddol. Wrth inni fynd i’r afael â’r heriau hynny, mae’n bwysig inni atgoffa ein hunain nad yw’r Cynulliad yma yn llawn o hen draddodiadau a ffyrdd hynafol o weithio; ni yw un o seneddau ifancaf Ewrop. Nid yw hynny’n rhywbeth i’w ofni; dylem wneud y gorau o’r cyfleoedd a ddaw yn sgil bod yn senedd newydd, sy’n ein rhyddhau ni i greu ffyrdd arloesol o wleidydda. Ac mae’n rhaid inni gynnwys pobl ifanc yn y gwaith yma. Mae’r penderfyniadau a wnawn ni yma yn effeithio ar eu dyfodol, ac felly mae’n rhaid inni wrando ar eu llais fel rhan annatod o’n trafodaethau.
Mae gennym hanes balch yn hyn o beth. Mae timau allgymorth ac addysg y Cynulliad yn arwain y ffordd o ran ymgysylltu seneddol, ac mae gennym berthynas gynhyrchiol hirsefydlog gyda phlant a phobl ifanc Cymru. Yn ystod y Cynulliad diwethaf, gwnaeth y Comisiwn benderfyniad pendant i ganolbwyntio ar ei ymdrechion i ymgysylltu â phobl ifanc, gan gynnwys pobl ifanc yn uniongyrchol ym musnes ffurfiol y Cynulliad, gan roi cyfle iddynt ddylanwadu ar waith Aelodau a phwyllgorau yma. Ers hynny, rydym wedi sefydlu rhaglen waith ieuenctid sydd wedi cynnwys dros 200 o grwpiau ieuenctid ac ystod eang o safbwyntiau yng ngwaith y Cynulliad, gan gynnwys y rheini sydd yn aml heb lais: plant sy’n derbyn gofal, plant anabl, a gofalwyr ifanc. Mae dros 20,000 yn ymweld â Siambr Hywel neu’n cyfarfod ag Aelodau a swyddogion bob blwyddyn.
Mae llawer ohonoch chi Aelodau wedi cysylltu â phobl ifanc drwy eich gwaith pwyllgor. Yn gynyddol, rwy’n gweld bod eu cyfraniad yn rhan greiddiol a dylanwadol o’r broses o gasglu tystiolaeth, ac nid dim ond fel atodiad neu gyfeiriad ar ddiwedd adroddiad. Fe gyfeiriwyd ynghynt yn y drafodaeth am y gwaith yr oedd rhai ohonom ni’n ymwneud ag e ar y pwyllgor iechyd yn y pedwerydd Cynulliad, ac fel aelod o’r pwyllgor iechyd hynny rwy’n mawr gofio’n glir iawn y dystiolaeth gawsom ni gan bobl ifanc yn gadael gofal wrth inni drafod deddfwriaeth a llunio deddfwriaeth ar wasanaethau cymdeithasol.
Fel llawer ohonoch, rwy’n siŵr nad wyf yn derbyn nad oes gan bobl ifanc ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth. Er gwaethaf y ffaith na allant bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad hyd yn hyn, maent yn deall pwysigrwydd y penderfyniadau yr ydym ni’n eu gwneud yma. Maent yn gallu dweud wrthym pryd a sut y mae ein gweithredoedd yn effeithio arnyn nhw’n uniongyrchol, ac mae llawer ohonynt yn gweithio’n galed i ddylanwadu ar ein prosesau. Fodd bynnag, nid da lle gellir gwell.
Fel cenedl sydd wedi ymrwymo i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, mae’n rhaid inni wneud yn well. Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i gymryd rhan fel dinasyddion nawr. Felly, mae’n rhaid inni gynyddu cyfleoedd ystyrlon i’w cynnwys yn ein gwaith ni yma—cyfraniad a fydd, rwy’n siŵr, yn ein hysbrydoli i feddwl yn wahanol am ddyfodol ein cenedl. Dylem hefyd eu helpu i drafod materion sy’n bwysig iddyn nhw, canfod ffyrdd i bobl ifanc ysgogi ein hagenda ni, ac, yn fwy na dim, mae’n rhaid inni wrando. Dyna pam, ers cychwyn yn y swydd yma ym mis Mai, rwyf wedi gwneud fy ymrwymiad yn glir i gynyddu cyfranogiad plant a phobl ifanc yng ngwaith y Cynulliad ymhellach.
Rwy’n ymwybodol iawn o’r bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer cynulliad ieuenctid cenedlaethol i Gymru ers i’r Ddraig Ffynci ddod i ben ym mis Hydref 2014. Yn ddi-os, roedd y Ddraig Ffynci yn arloeswr wrth iddi fod yn fodd i bobl ifanc yng Nghymru siarad yn uniongyrchol â phwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant yng Ngenefa, er enghraifft. Ond heddiw mae cyfle gennym i feddwl o’r newydd am ofod democrataidd cenedlaethol i bobl ifanc Cymru—gofod sy’n adlewyrchu’r gwahaniad rhwng llywodraeth a senedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu strwythurau at ei diben ei hun i alluogi pobl ifanc i ddylanwadu ar ei pholisïau ac er mwyn galluogi’r Llywodraeth i gydymffurfio â’i dyletswyddau o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Felly, rwy’n falch ein bod ni’n cael y ddadl hon heddiw, gan ei bod yn fy ngalluogi i gadarnhau fy ymrwymiad i i sefydlu senedd ieuenctid parhaol i Gymru yn gynnar yn y pumed Cynulliad. Mae Comisiwn y Cynulliad wedi cymeradwyo’r uchelgais yma fel rhan o’r strategaeth newydd, ac un o’r sgyrsiau yr wyf wedi eu cael â chydweithwyr ers mis Mai, ac wrth gyfrannu heddiw at y ddadl hon, yw bod yna frwdfrydedd ym mhob plaid am gam o’r fath yma. Mae swyddogion y Cynulliad wedi bod mewn cysylltiad agos â grŵp Ymgyrch Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru ers iddynt lansio eu hymgynghoriad yn gynharach eleni, ac mae’r ymgynghoriad hwnnw yn cwmpasu mewnbwn gan arbenigwyr hawliau plant, barn pobl ifanc yn ogystal â chymariaethau o amryw fodelau seneddol rhyngwladol. Rwyf hefyd wedi trafod y mater yma â’r comisiynydd plant, Sally Holland, ac wedi canfod ein bod yn rhannu’r un syniadau a’r un dyhead ar y mater yma. Hoffwn roi gwybod i Aelodau fy mod wedi ysgrifennu at ymddiriedolwyr Ymgyrch Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru, cyn eu cyfarfod nhw ar 23 Hydref, yn nodi ein hymrwymiad ni fel Comisiwn i fynd â’r mater yma yn ei flaen. Wrth gwrs, byddaf yn parchu eu hymgynghoriad ac edrychaf ymlaen at weld eu hargymhellion terfynol ar senedd ieuenctid cyn y Nadolig.
I gloi, heddiw, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i ymddiriedolwyr Ymgyrch Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru a’u hymgyrchwyr am eu hymroddiad i’w hachos. Am ddwy flynedd, maent wedi ymgyrchu’n ddiflino dros sefydlu cynulliad ieuenctid, gan greu corff gwych o waith ymchwil a thystiolaeth a fydd yn ein helpu ni i ddatblygu’r uchelgais yma. Diolch am ein hatgoffa nad yw ein dyletswydd i bleidleiswyr heddiw yn unig, ond i bob dinesydd o bob oedran sydd â rhan yn ein democratiaeth, yn y presennol a’r dyfodol. Os bydd y Cynulliad yn pleidleisio o blaid y cynnig yma y prynhawn yma, yna mi fydd yn fandad clir i’r Comisiwn symud ymlaen i weithio ar y manylion er mwyn sefydlu, yn y dyfodol agos, senedd ieuenctid gyntaf Cymru.