Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 19 Hydref 2016.
Diolch i Julie Morgan am yr ymyriad, ac yn wir, dyna un o’r meysydd pryder a nodwyd gan arbenigwyr sy’n awdurdod ar y cyfansoddiad a deddfwriaeth a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor. Felly, mae’n un o’r meysydd sy’n peri pryder i ni, yn anffodus.
Mae’r rhain yn tynnu sylw at rai enghreifftiau syml. Byddai’n cymryd gormod o amser i egluro sut y mae cymhlethdod y profion a’r cymalau cadw yn gweithio gyda’i gilydd ac yn effeithio ar allu’r Cynulliad Cenedlaethol i wneud cyfreithiau. Fodd bynnag, rydym wedi cyhoeddi enghraifft o’r anawsterau a wynebid mewn perthynas â Bil damcaniaethol, enghraifft a ranasom â Phwyllgor Cyfansoddiadol Tŷ’r Arglwyddi yr wythnos diwethaf. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y Bil i ddarllen honno.
Er bod angen ailwampio’r Bil yn llwyr, mewn gwirionedd, byddai’n rhy gymhleth ceisio ailysgrifennu Bil o’r math hwn drwy wneud gwelliannau. Mae’n bwynt cyffredinol o egwyddor a amlygwyd yn adroddiad y pwyllgor a’n rhagflaenodd, ‘Deddfu yng Nghymru’. Felly, yn wyneb yr heriau a amlinellais, fel pwyllgor, a chan weithio’n adeiladol gyda rhanddeiliaid, roeddem yn cydnabod mai ein rôl ni o reidrwydd yw awgrymu gwelliannau a fyddai’n gwneud y Bil yn fwy ymarferol nag y mae ar hyn o bryd, lleihau’r fiwrocratiaeth y mae’n ei chyflwyno ac o leiaf—fan lleiaf—dod â chymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol yn ôl i’r hyn a geir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Ar y pwynt olaf hwn, hoffwn nodi y dylid edrych ar y dyfarniad ar y Bil Sector Amaethyddol (Cymru) fel safbwynt y Goruchaf Lys ar fwriad Senedd y DU mewn perthynas â Deddf 2006. Mae hwn yn bwynt cyfansoddiadol pwysig.
Felly, ein dull o weithredu oedd nodi a chefnogi gwelliannau a awgrymwyd yn flaenorol gan y Llywydd neu Lywodraeth Cymru a oedd yn cyflawni’r amcanion rwyf newydd gyfeirio atynt. Yn benodol, fe gefnogom welliannau a fyddai: mewn perthynas â chymal 2, yn ei gwneud yn llawer mwy eglur ym mha amgylchiadau y byddai Senedd y DU yn deddfu ar faterion datganoledig; mewn perthynas â chymal 3, yn cael gwared ar brofion angenrheidrwydd er mwyn sicrhau bod lefel gyfredol—cyfredol—cymhwysedd y Cynulliad yn cael ei chynnal; ac mewn perthynas â chymal 18, yn ceisio sicrhau bod swyddogaethau gweithredol Gweinidogion Cymru mewn meysydd datganoledig wedi’u halinio â chymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.
Awgrymasom ein gwelliannau eu hunain hefyd, yn fwyaf amlwg, gwelliant sy’n caniatáu i’r Cynulliad Cenedlaethol gydgrynhoi, heb addasu, yr holl ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chyfansoddiad Cymru yn ein hieithoedd swyddogol. Mae dull o’r fath yn dryloyw a bydd yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn hygyrch. Mewn democratiaeth iach, mae hyn yn hanfodol er mwyn i ddinasyddion fod yn glir ynglŷn â pha sefydliad seneddol sy’n gyfrifol am ddeddfu mewn maes polisi penodol. Ond mae cymhlethdod a diffyg eglurder y Bil fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, yn bwrw amheuaeth ar gadernid hirdymor y setliad. Ffactor arall sy’n effeithio ar y cadernid hwn yw’r methiant i ddarparu ar gyfer awdurdodaeth benodol neu awdurdodaeth ar wahân i Gymru. Fel y clywsom mewn digwyddiad i randdeiliad, bydd pwysau ymarferol—pwysau ymarferol—yn anochel i’r rhai sy’n ymarfer y gyfraith neu’n rhoi cyngor ar y gyfraith yng Nghymru. Felly, bydd yr achos dros awdurdodaeth o’r fath yn parhau i godi. Mae’n anffodus, felly, fod y Bil hwn yn debygol o barhau yn hytrach na datrys ansicrwydd cyfansoddiadol.
Mae setliad cadarn ac ymarferol yn hanfodol i gywirdeb cyfansoddiadol y DU yn ogystal ag i Gymru. Am y rheswm hwnnw rydym yn credu y bydd yn rhaid i wleidyddion yn Senedd y DU a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ddychwelyd at setliad datganoli Cymru yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.