Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 19 Hydref 2016.
‘Nid wyf yn gweld y setliad yma mewn unrhyw ffordd yn fwy parhaol na’r lleill.... Tan i ni gyrraedd y pwynt o gael rhyw fath o awdurdodaeth arbennig ar gyfer Cymru, nid wyf yn credu y bydd y broses o ddatganoli wedi dod i ben. Ond, eto rwy’n teimlo bod y modd y mae’r materion sy’n cael eu cadw’n ôl yn cael eu delio â nhw yn y Bil yma eto yn rhywbeth sydd yn sefyllfa dros dro, nid yn sefyllfa barhaol mewn unrhyw ffordd.’
Nid fy ngeiriau i, ond geiriau’r cyfreithiwr cyfansoddiadol disgleiriaf yng Nghymru. A sut ydw i’n gwybod mai fo ydy’r disgleiriaf yng Nghymru? Wel, mae o’n athro cyfraith er anrhydedd ym mhrifysgolion Bangor a Chaerdydd, a gallwch chi ddim mynd yn uwch na hynny.
Mae’r Athro Thomas Glyn Watkin a’r rhai eraill a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor ar y Bil yma wedi dangos yn gwbl glir yr holl ddiffygion sydd wedi cael eu hailadrodd yn y Bil yma, oherwydd roedd hi’n amlwg o’r dechrau, pan gynigiwyd y Bil drafft gwreiddiol, pa lwybr roeddem ni’n ei ddilyn, sef llwybr o symud o bwerau wedi eu gosod i bwerau wedi eu cadw nôl. Ond, i mi, nid dyna oedd y cwestiwn; y cwestiwn bob tro oedd: sawl eithriad sydd yna? A’r peth allweddol i mi yw cymharu’r eithriadau sydd yn neddfwriaeth ddatganoli’r Alban a deddfwriaeth ddatganoli Gogledd Iwerddon a gweld beth yw’r rheswm, a holi—ac rwy’n dal i ofyn hyn: beth yw’r rheswm cyfansoddiadol pam fod Cymru yn gorfod cael ei thrin yn wahanol? Fe ofynnais i’r cwestiwn i’r Ysgrifennydd Gwladol cynt, a gofyn iddo fo os oedd o wedi darllen y cymal priodol yn Neddf Gogledd Iwerddon sydd yn cynnwys eithriadau, achos nid oes yna ddim—fel y gŵyr y Prif Weinidog yn iawn—ond ychydig iawn o eithriadau, ac mae’r eithriadau yng Ngogledd Iwerddon i bwerau cadwedig yn rhoi pwerau ychwanegol i Lywodraeth a senedd Gogledd Iwerddon er mwyn iddyn nhw allu delio â’r weriniaeth ar yr un telerau. Hynny yw, nid eithriadau i rwystro pobl rhag gwneud pethau, ond eithriadau i’w galluogi nhw i wneud rhywbeth.
Felly, mae’n amlwg i mi nad yw’r model rydym wedi bod yn ei ddilyn i ddatblygu datganoli—. Rwy’n llongyfarch y Cadeirydd newydd ar ei waith, a fy nghyd-aelodau o’r pwyllgor, pan roeddwn i arno fo, ac rwy’n falch ei fod wedi gwneud y pwynt yma, ac mae hwn yn bwynt allweddol: mae’n rhaid inni ddod i sefyllfa lle rydym yn gallu cyd-ddeddfu gyda San Steffan. Ac, os caf i ddweud, fe wnaethom ni hynny yr wythnos o’r blaen, pan, o dan arweiniad y Cadeirydd, fe aethom ni i gwrdd â chyfeillion sy’n aelodau o Bwyllgor Cyfansoddiadol yr ail Dŷ yn San Steffan. Nid wyf erioed wedi teimlo’n falchach o fod yn Aelod o’r Cynulliad yma—ac rwy’n digwydd bod, hefyd, oherwydd y gorffennol, yn Aelod o’r ail Dŷ yn San Steffan—oherwydd roedd ein perfformiad ni yn y pwyllgor yna gystal ag unrhyw wleidyddion, gystal ag unrhyw ddeddfwyr yn y Deyrnas Unedig neu unrhyw fan yn Ewrop—lle rydw i wedi bod, beth bynnag. Ac eto, dyma ni’n cael ein cyfyngu rhag gwneud y gwaith deddfu ein hunain.
Nawr, rwyf wedi manteisio ar waith y pwyllgor yma ac wedi gosod nifer o welliannau drafft fydd yn cael eu trafod yn y Cyfnod Pwyllgor yn yr ail Dŷ yr wythnos ar ôl nesaf, ac mi fydd fy nghyfaill y farwnes goch o Drelái yna efo fi. Nid wyf i’n gwybod beth yw ei theimlad hi, ond nid wyf i’n obeithiol iawn y bydd y Llywodraeth yn gwrando. Nid wyf i’n obeithiol iawn, o’r sgyrsiau rwyf wedi eu cael gyda’r Llywodraeth, bod ganddynt wirioneddol ddiddordeb mewn ymateb i’r hyn rydym ni’n ei wneud, sydd yn codi cwestiwn difrifol iawn ynglŷn â’r rhagfarnu yn erbyn y tŷ hwn yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Mae’n rhaid inni geisio ffyrdd cwbl wahanol o ddelio â chwestiynau cyfansoddiadol, ac mae’n rhaid i hynny olygu bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn fy marn i, yn gallu cyd-ddeddfu bob amser ar ei chyfansoddiad ei hun gyda San Steffan ac unrhyw le arall.