Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 19 Hydref 2016.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl hon a chydnabod hefyd y newid a fu yn UKIP? Rwy’n dweud hynny mewn termau sy’n hollol niwtral wrth blaid nad oedd, ar un adeg, o blaid datganoli. Heddiw, clywsom UKIP yn dweud nad yw’r Bil yn ddigonol ac yn dweud o ddifrif fod angen i’r sefydliad hwn gael mwy o eglurder a mwy o bwerau. Ac rwy’n cydnabod hynny.
Mae’n rhaid i ni gofio, wrth gwrs, fod yn rhaid cymharu’r Bil hwn â’r Bil gwreiddiol. Gwnaeth y Bil gwreiddiol lanast llwyr o ganlyniad refferendwm 2011. Dywedir y dylid parchu refferenda, ac rwy’n cytuno â hynny, ond i rai yn Whitehall, ymddengys eu bod yn cael eu parchu pan fydd hynny’n gyfleus iddynt hwy.
Byddai’r Bil hwnnw yn wreiddiol wedi golygu y byddem wedi colli’r pŵer i ddeddfu yn ôl ewyllys pobl Cymru a fynegwyd yn gryf iawn yn 2011. Mae’r Bil hwn yn well; byddai’n anodd iddo fod yn waeth, ond mae, er hynny, yn well. Mae yna rai rhannau o’r Bil y byddai’r Aelodau, rwy’n siŵr, yn cytuno â hwy. Rydym yn cael rheolaeth sylweddol ar ein cyfansoddiad mewn perthynas â’r Cynulliad, o ran y niferoedd, o ran dull o ethol ac wrth gwrs, o ran ein gallu i lywodraethu ein hunain fel sefydliad, yn hytrach na chael eraill i ddweud wrthym sut y dylem lywodraethu ein hunain. Mae’n cynnwys cryn dipyn o ddatganoli cyfraith trosedd; mae’n gwneud cynnydd mewn perthynas â dŵr—peth cynnydd—ynni a meysydd eraill y bydd yr Aelodau’n gyfarwydd iawn â hwy. Ond wrth gwrs, mae yna feysydd eraill nad ydynt yn cael eu trin yn briodol, sy’n golygu ei bod yn gwbl anochel y bydd yn rhaid mynd i’r afael â Bil arall yn y dyfodol. Ac mae’n drueni, oherwydd yn hytrach na gweithredu fel iâr or-ffyslyd â’i chywion, gallai Llywodraeth y DU ddangos gweledigaeth mewn gwirionedd drwy gyflwyno setliad a fyddai’n fwy parhaol ac yn fwy cadarn. Nid dyna’r ffordd y maent yn gweithredu yn San Steffan, yn anffodus.
Dau beth yn benodol sydd wedi achosi pryder i’r Aelodau yw’r awdurdodaeth a phlismona. Nid yw’n gydlynol i gael un awdurdodaeth gyda dwy ddeddfwrfa ynddi. Dyma’r unig le yn y byd sydd â system fel hon ac nid yw’n un gadarn. Pam rwy’n dweud hynny? Oherwydd gyda datganoli cyfraith trosedd sylweddol, bydd yn golygu y bydd yn berffaith bosibl i rywun gael eu harestio yng Nghaerdydd yn y dyfodol am drosedd nad yw’n drosedd yng Nghymru. Bydd yn berffaith bosibl i rywun dreulio amser yn y carchar yn Lloegr am drosedd nad yw’n drosedd yn Lloegr. Eisoes, dywedwyd wrthyf—yr Arglwydd Brif Ustus a ddywedodd hyn wrthyf—fod cyfreithwyr wedi dod i lysoedd yng Nghymru a dadlau’r gyfraith anghywir am eu bod yn credu bod un awdurdodaeth yn golygu un gyfres o ddeddfau. Mae’r dryswch hwn yn sicr o barhau yn y dyfodol. Oherwydd y methiant i ddatganoli’r heddlu, rydym hefyd mewn sefyllfa lle bydd y rhan fwyaf o’r gyfraith sy’n rheoli trefn gyhoeddus yn cael ei datganoli—yn wir, bydd y rhan fwyaf o gyfraith trosedd wedi’i datganoli—ond ni fydd yr asiantaethau sy’n gyfrifol am erlyn a gorfodi’r gyfraith honno wedi’u datganoli. Nawr, nid yw hynny’n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl, fel y gwêl yr Aelodau yn y dyfodol.
Ar fater trwyddedu, mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi bod o’r farn fod trwyddedu’n fater iechyd. Nid oedd Llywodraeth y DU yn derbyn hynny; dywedasant ei fod yn fater trefn gyhoeddus. Eto i gyd, bellach, bydd y rhan fwyaf o ddeddfwriaeth trefn gyhoeddus yn cael ei datganoli, ond ni fydd trwyddedu’n cael ei ddatganoli. Felly, mae’r rhesymeg sy’n sail i’r methiant i ddatganoli trwyddedu yn diflannu. Dyna’r broblem: nid oes rhesymeg yn y Bil hwn o gwbl. Pam y dylai’r Alban gael rheolaeth ar doll teithwyr awyr, ac nid Cymru? Gwn yr ateb i’r cwestiwn hwnnw: maent yn gresynu eu bod wedi rhoi rheolaeth dros doll teithwyr awyr i’r Alban yn y lle cyntaf. Nid ydynt am sicrhau ein bod ni’n cael yr un hawliau dros eu crogi. Pam y mae porthladdoedd yn cael eu datganoli, ac eithrio porthladd cytundeb Aberdaugleddau? Y rheswm, mewn gwirionedd, yw oherwydd y llif o nwy naturiol hylifedig i’r porthladd. Rwyf wedi cael gwybod hynny gan Lywodraeth y DU: ‘Wel, mae’n rheoli 25 y cant o’r nwyon naturiol hylifedig’. Fel pe baem am roi stop arno. Pam y ceir pŵer ymyrryd mewn perthynas â dŵr, sy’n negyddu unrhyw beth y gallai’r Cynulliad fod eisiau ei wneud yn y dyfodol? Byddai’r pŵer ymyrryd hwnnw’n golygu na allem gael rheolaeth dros ein hadnoddau dŵr; byddai’n golygu y gellid gorfodi Tryweryn arall arnom. Nid yw hynny’n iawn o ran yr angen i gael perthynas aeddfed rhwng Llywodraethau. Unwaith eto, mae’n ymwneud â’r ffaith fod ganddynt obsesiwn â’r syniad y byddwn, mewn rhyw ffordd, yn cau’r tapiau os oes gennym reolaeth dros ddŵr. Rwyf wedi cael profiad o hyn. Pan oeddwn yn Weinidog yr amgylchedd, roeddem eisiau rhoi’r ffin wleidyddol yn ei lle ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd. Y ddadl a daflwyd yn ôl atom oedd, ‘Ie, ond efallai y byddwch yn gwneud rhywbeth i afon Hafren yn y Drenewydd a fydd yn achosi llifogydd yng Nghaerloyw.’ Nawr, pam y cawn ein gweld fel rhyw fath o bŵer gelyniaethus, nid wyf yn gwybod, ond dyna’r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn gweld pethau weithiau. Mae’n drueni, oherwydd, fel rwy’n dweud, mae cyfle yma i wneud pethau’n iawn.
Mae’n anochel, rwy’n credu, y byddwn yn ôl yn y Goruchaf Lys yn y pen draw, ac mae hynny, unwaith eto, yn tanseilio’r ddadl fod hwn yn setliad parhaol yn seiliedig ar gytundeb Dydd Gŵyl Dewi, nad yw’n gytundeb ac ni fu’n gytundeb erioed. Unwaith eto, rydym mewn sefyllfa lle nad oes rhesymeg yn sail i’r cwestiwn pam fod rhai meysydd yn cael eu cadw’n ôl a meysydd eraill yn cael eu datganoli.
Ar fater cosb resymol, nid wyf yn credu y bydd yn amharu ar ein gallu i fynd i’r afael â hynny, gan ei bod yn eithaf amlwg i mi y bydd trosedd ymosod cyffredin wedi’i datganoli’n gyfan gwbl ac felly bydd yr amddiffyniadau’n dilyn hynny. Byddwn yn gallu gosod ein llwybr ein hunain mewn perthynas â’r drosedd honno.
Mae’n gywir dweud bod yna rai meysydd lle mae datganoli’n mynd am yn ôl—meysydd fel cyflogaeth, er enghraifft, a meysydd lle bydd angen cydsyniad Gweinidog y Goron o hyd mewn meysydd nad ydynt mor bwysig â hynny mewn gwirionedd, ac mae’n anodd dirnad pam eu bod i’w gweld mor bwysig i Whitehall.
Ar rai o’r materion eraill a grybwyllwyd gan yr Aelodau, mae’r materion a nododd Nathan Gill yn rhai pwysig. Pysgodfeydd môr—eto, oherwydd y penderfyniad i adael yr UE, mae angen mynd i’r afael â nifer o bethau. Yn gyntaf oll, gyda physgodfeydd môr, mae gennym reolaeth dros y terfyn 12 milltir, ond nid y tu hwnt i hynny. Mae’r rheolaeth honno gan bawb arall: mae’r rheolaeth honno gan yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr, ond nid Cymru. Nawr, yn nyddiau’r polisi pysgodfeydd cyffredin, nid oedd o bwys mewn gwirionedd. Mae’n bwysig yn awr, oherwydd mae’n amharu ar ein gallu i gael polisi pysgodfeydd priodol sy’n galluogi fflyd bysgota Cymru i gael mynediad cynaliadwy i ddyfroedd Cymru. Ni fydd hynny’n bosibl fel y mae pethau. Bydd Llywodraeth y DU o’r farn fod y pwerau a fydd yn dychwelyd o Frwsel yn mynd i San Steffan yn y pen draw. Nid yw hynny’n wir. Os cânt eu datganoli, byddant yn osgoi San Steffan ac yn dod yn syth yma, a’r pryder sydd gan rai ohonom yw y gwneir ymgais i atal hynny rhag digwydd, rywsut, gyda ffermio a physgodfeydd. Fel arall, wrth gwrs, byddent yn cael eu datganoli’n awtomatig.
Ar y refferendwm, yr hyn rwyf wedi’i ddadlau bob amser yw hyn: mewn rhai ffyrdd, mae’r ddadl wedi symud ymlaen. Mae gan yr Alban bwerau cyllidol llawer cryfach na’r hyn sydd gennym ni, ac mae hynny wedi digwydd heb refferendwm. O ganlyniad i hynny, nid wyf yn gweld yr angen am refferendwm yng Nghymru bellach, o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban a’r pwerau sydd wedi’u datganoli yno.
Mae’n rhaid i ni ddeall nad ydym eto mewn sefyllfa yn y DU lle mae Llywodraeth y DU, a dweud y gwir yn blaen, yn ddigon aeddfed i drin y Llywodraethau eraill yn y DU gyda pharch. Yn y Bil hwn, mae llawer o bethau y gellir eu cefnogi; mae yna bethau eraill a fydd yn achosi pryder mawr i’r Aelodau. Byddwn yn cynnig gwelliannau fel Llywodraeth i adlewyrchu pryder yr Aelodau mewn ymgais wirioneddol i wella’r Bil, er mwyn ei wneud yn gliriach i ni ddeall yn iawn beth yw’r ffiniau rhwng yr hyn sydd wedi’i ddatganoli a’r hyn nad yw wedi’i datganoli, gan barchu canlyniad refferendwm 2011. Rydym yn aros i weld beth fydd safbwynt Llywodraeth y DU ar hynny. Mae ein cefnogaeth i’r Bil yn parhau i fod yn amodol ar yr hyn y byddwn yn ei weld yn dod drwy’r gwahanol gamau yn Nhŷ’r Arglwyddi. Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried barn, nid yn unig Llywodraeth Cymru, ond pobl eraill, mewn pleidiau eraill o amgylch y Siambr hon, ac yn gweithio o ddifrif i sicrhau bod hwn yn Fil sy’n diwallu anghenion cyfansoddiadol Cymru, sy’n cydnabod y farn a fynegwyd gan bobl Cymru yn 2011 ac yn fwy na dim arall, sy’n golygu na fydd yn rhaid i ni ddod yn ôl eto mewn ychydig flynyddoedd i ddadlau yr un pwyntiau drosodd a throsodd. Mae hynny wedi’i golli hyd yn hyn ac rwy’n gobeithio na fydd yn cael ei golli yn y dyfodol. Mae’r neges wedi mynd yn glir o’r Cynulliad hwn heddiw, o bob ochr i’r Cynulliad: mae gwaith i’w wneud o hyd i gynhyrchu Bil sy’n dderbyniol.