Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 19 Hydref 2016.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon? Rwyf wedi fy synnu gan y ffaith fod cymaint o gonsensws. Efallai fod gwahaniaethau o ran pwyslais a naws, ond y consensws, fel y’i mynegwyd gan y Prif Weinidog yn awr, yw y byddwn, yn gyntaf, yn ôl yma eto, ac yn ein hadroddiad, rydym wedi dweud yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Ond hefyd, nodaf fod y Prif Weinidog wedi dweud ei bod yn anochel y byddwn yn ôl yn y Goruchaf Lys. ‘Does bosibl mai dyna yw diben setliad deddfwriaethol a chyfansoddiadol da a chlir.
Ar un manylyn, Lywydd, o ran y mater a nododd Julie Morgan, gall fod yn rhywbeth unwaith eto rydym am geisio eglurhad yn ei gylch oherwydd, yn sicr, roedd y dystiolaeth a gawsom gan bobl fel Emyr Lewis yn—wel, fe’i dyfynnaf:
‘rwy’n credu ei bod hi’n eithaf eglur ar hyn o bryd bod gan y Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i gael gwared ar yr amddiffyniad mewn achos o ymosod ar blentyn o gystwyo rhesymol… Pe bai’r Bil yma’n dod yn Ddeddf, rwy’n credu y byddai hynny’n diflannu, oherwydd y newidiadau mewn perthynas â chyfraith droseddol.’
Ond y ffaith syml yw na ddylem orfod ceisio osgoi hyn a cheisio egluro, yn y dryswch hwn, beth sy’n digwydd. Dyna beth y mae’r Bil hwn yn ei wneud i ni.
Ond rwy’n diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Mae Simon Thomas, gyda’r cyfraniad yma, wedi cyffwrdd ar y parch rhwng dau sefydliad aeddfed. Efallai ein bod yn sefydliad ifanc, ond rydym yn alluog, rydym yn hyderus, mae gennym gorff o gyfreithiau, ac mae gennym gorff o ddeddfwyr. Wrth ddatblygu cyfraith gyfansoddiadol—mae’n bwynt a wnaethom yn glir iawn—mae angen i ni weithredu gyda mwy o gydbwysedd wrth ei datblygu, a mwy o gydbwysedd yn y canlyniadau rhwng y ddwy Lywodraeth, a’r Cynulliad a’r Senedd, ac yn y blaen. Fel y gwnaeth eraill, amlygodd y perygl o golli pwerau sydd gennym eisoes, mater rydym wedi tynnu sylw ato. Soniodd am ddyfyniad Charles Parnell. Os oes gennyf amser, efallai y ffeiriaf ddyfyniad gan rywun arall gydag ef yn y man.
A gaf fi dalu fy nheyrnged fawr i gyn-gadeirydd y pwyllgor hwn, David Melding, ac am ei gyfraniad i hyn hefyd? Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael pwyllgor ymrwymedig iawn. Mae pob un o aelodau’r pwyllgor wedi cyfrannu, ond yn sicr mae profiad rhai Aelodau hŷn sydd wedi cadeirio’r pwyllgor hwn, neu sydd â phrofiad hir o faterion cyfansoddiadol, wedi bod o fantais fawr i’r pwyllgor. Ategaf ei sylwadau, a’i sylwadau am ein tîm cymorth a’r clercod yn ogystal, a hefyd ei sylwadau ar elfennau da’r Bil. Rwy’n gwbl argyhoeddedig, os gellir addasu’r Bil wrth iddo fynd ar ei daith, mae’n werth tynnu sylw at elfennau da’r Bil hwn. Ond mae cyfrifoldeb mawr ar ysgwyddau’r bobl yn ‘y lle arall’, fel roeddem yn arfer ei alw yn San Steffan—yn Nhŷ’r Arglwyddi—ac yn Nhŷ’r Cyffredin yn ystod y camau olaf i wneud y gwelliannau angenrheidiol hynny. Ond fe ellir ei wella. Mae’n werth ei wella yn yr wythnosau i ddod sy’n weddill.
Diolch hefyd i Michelle Brown a oedd yma am y rhan fwyaf o’r Bil hwn, ac mae hi wedi cyffwrdd ar yr angen am gydweithredu i ddatblygu setliad cyfansoddiadol. Mae’n thema allweddol yn ein gwaith. Dywedodd Nathan fod pumed Bil yn realiti yn eithaf buan. Mae hynny’n hollol gywir, ac mae yna gonsensws ynglŷn â hynny ymhlith yr holl gyfranwyr heddiw. Nid hwn yw’r setliad parhaol a chadarn. Nid yw’n agos at fod, ond efallai y gallwn symud ychydig gamau ymlaen os gallwn roi’r gwelliannau hyn ar waith.
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a fydd yn parhau ei ymwneud â hyn ar ben arall yr M4 neu reilffordd y Great Western, ‘Os ydym am gael model cadw pwerau, gadewch i ni gael model cadw pwerau priodol’. Nid wyf am ddweud pwy, ond rwy’n siŵr fod un o aelodau fy mhwyllgor, pan aethom i bwyllgor cyfansoddiadol Tŷ’r Arglwyddi, wedi dweud ‘Gadewch i ni gael model cadw pwerau yn hytrach na model gwrthdroi pwerau’.
Cafwyd consensws cryf heddiw. Gadewch i mi, wrth gloi, ddweud yn fyr iawn fod un o’r enghreifftiau diddorol yn ymwneud â thraffig ffyrdd. Mae’n enghraifft sy’n pwysleisio cymaint o bethau sy’n annigonol yn y Bil. Mae’n ymddangos y gallai’r Cynulliad basio deddfwriaeth sy’n pennu terfyn cyflymder ar ffordd, ond ni fyddai’n gallu pennu trosedd traffig ffyrdd y byddai torri’r terfyn cyflymder hwnnw’n ei thramgwyddo. Mae hynny’n hurt. Felly, wrth gloi, a gaf fi rannu meddyliau un tyst gyda chi, Dr Diana Stirbu, a wnaeth sylwadau huawdl a oedd yn taro tant yn y pwyllgor? Meddai, dylai setliad cyfansoddiadol fod yn uchelgeisiol hefyd. Ac rwy’n credu mai’r hyn rydym yn methu â’i weld yw uchelgais a dyhead clir ar gyfer statws cyfansoddiadol Cymru a sut y bydd Cymru’n cael ei hail-leoli’n gyfansoddiadol o fewn y DU.
Mae hyn yn adleisio sylwadau a wnaeth Prif Weinidog Cymru ac eraill yn flaenorol. A dywedodd,
‘rwy’n credu bod cyfansoddiadau yn cyfleu negeseuon ynglŷn â pha fath o wleidyddiaeth rydych yn ei harfer mewn gwlad, pa fath o gymdeithas yr hoffech fyw ynddi, pa fath o ddyheadau sydd gennych ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. A’r holl negeseuon hyn, symbolaidd neu beidio, ar lefel ddatganiadol neu ar lefel dechnegol iawn—credaf y dylai’r cyfansoddiad fynd ymhellach na mynegiant technegol a chyfreithiol o realiti gwleidyddol yn unig.’
Rwyf fi a holl aelodau’r pwyllgor yn wirioneddol ddymuno’r gorau i’r Bil hwn. Rydym yn gobeithio y caiff ei wella fel y bydd angen, ond byddwn yn ôl yma’n gynt yn hytrach nag yn hwyrach, ac mae angen i ni weithio ar y cyd i gyflawni’r setliad clir, ymarferol a pharhaol hwnnw sydd ei angen, nid yn unig ar Gymru, ond ar y DU hefyd.