Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Part of QNR – Senedd Cymru ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cael ei sefydlu fel adran anweinidogol a fydd yn cael ei staffio gan weision sifil. Oherwydd natur gwaith yr awdurdod, bydd angen gweithlu eithaf arbenigol ar gyfer rhai o’i brif gyfrifoldebau, gan gynnwys gweinyddu trethi, cyllid, gwaith cyfreithiol, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, a dadansoddi data.