Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Wel, wrth gwrs, mae sawl corff, sef Sustrans, er enghraifft, a hefyd awdurdodau lleol, yn ystyried ffyrdd i greu llwybrau seiclo er enghraifft. Rydym ni wedi’u cefnogi nhw yn y gorffennol ac yn edrych i gefnogi cynlluniau da yn y pen draw. Hefyd, wrth gwrs, rydym ni’n gweithio gyda fforwm twristiaeth canolbarth Cymru a gyda chynghorau Powys a Cheredigion er mwyn datblygu’r cyfleon yn fwy.