Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Wel, mae cysondeb yn bwysig—mae hynny’n iawn. Ac rydym ni, wrth gwrs, yn moyn gweld awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn iddyn nhw ddeall beth sy’n gweithio orau yn y sefyllfa hyn. Ond nid oes dim amheuaeth bod y ddeddfwriaeth wedi gwneud gwahaniaeth mawr ynglŷn â sicrhau bod yna lai o bobl yn wynebu digartrefedd, a sicrhau nad ydyn nhw yn y sefyllfa lle maen nhw’n colli y to dros eu pennau yn y lle cyntaf.