<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 1 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:38, 1 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r Gweinidog eisoes wedi dweud bod y drws yn agored. Yr hyn y mae angen ei archwilio yw a fyddai cyfraith yn gwneud gwahaniaeth. Os oes cyfraith ar gyfer awtistiaeth, a ddylai fod cyfraith ar gyfer canser, a ddylai fod cyfraith ar gyfer gwasanaethau eraill hefyd? Dyna’r cydbwysedd y mae'n rhaid ei daro. Nid oes amheuaeth ein bod ni eisiau gweld gwelliant i’r gwasanaethau a ddarperir i bobl. Rwy'n gwybod yn iawn pa mor anodd yw hi i bobl sy'n ymdopi â pherthnasau sydd ag awtistiaeth, ac rydym ni eisiau gweld y gwasanaethau hynny'n gwella, a dyna pam yr ydym ni wedi cymryd camau i wneud hynny. Yr hyn y mae’n rhaid i ni ei archwilio yw a fyddai cyfraith yn helpu i wella’r gwasanaethau hynny mewn gwirionedd. Ac mae hwnnw’n gwestiwn agored.