Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Wel, mae angen i ni ystyried ymhellach beth fyddai cyfraith yn ei ychwanegu, fel yr wyf i wedi ei ddweud. Rwy’n derbyn y pwynt am wasanaethau’n gwella. Nid yw arian o reidrwydd yn dilyn y gyfraith; mae Lloegr, rwy’n credu, yn cynnig digon o enghreifftiau lle nad yw hynny wedi digwydd. Felly, yr hyn yr ydym ni eisiau ei weld yw gwelliant i wasanaethau—mae hynny'n wir—ond mae angen gwneud rhagor o waith i archwilio pa un a fyddai cyfraith yn gwneud y gwahaniaeth y byddai ymgyrchwyr yn ei obeithio ac yn ei ddisgwyl.