Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, ceir heriau ar draws y Deyrnas Unedig gyfan o ran recriwtio a chadw athrawon mewn unrhyw system addysg. Yn anffodus, mae'r ffigurau yma yng Nghymru ar gyfer recriwtiaid newydd i'r proffesiwn yn eithaf damniol, i fod yn onest â chi. Ar ôl pum mlynedd yn y proffesiwn, bu cynnydd o 50 y cant mewn athrawon yn troi eu cefnau ar y proffesiwn a cherdded i ffwrdd. Bu cynnydd o 16 y cant yn yr athrawon sy'n ymddeol cyn amser ymddeol. Pa ffydd a all fod gennym y bydd eich Llywodraeth newydd yn gallu atal y ffigurau hyn a gwella’r ffigurau hynny fel bod athrawon, pan fyddan nhw wedi’u hyfforddi a phan fyddan nhw yn y proffesiwn, yn aros yn y proffesiwn i wneud y gwelliannau yr ydym ni i gyd eisiau eu gweld mewn addysg?